Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Dogfennau Amrywiol
Miscellaneous documents


Google


[Ynglŷn â'r awdur/About the author][Mwy o ddyfyniadau / More extracts]

Coelion Cymru

gan Y Parchedig Evan Isaac, Taliesin

Hen Wrach Cors Fochno

HEN WRACH CORS FOCHNO. Y mae'n anodd penderfynu ym mha gwmni y dylid gosod yr Hen Wrach. O ran natur nid yw yn anweledig, ond, y mae ganddi ryw fedr anarferol i ymguddio. Ni chlywais erioed am fwy nag un a'i gwelodd. Efallai y cymer ei lle yn y bennod hon cystal ag unman.

Y mae ynglŷn â Chors Fochno gryn lawer o ddeunydd llên gwerin, mwy fe ddichon nag a berthyn i unrhyw gors arall yng Nghymru, ac nid oes bod i'r Hen Wrach ar wahân iddi. Oherwydd y pethau hyn, teimlaf y dylid rhoddi peth o hanes y gors.

Cors fawr ydyw, a hynod o ran ei chynnwys a'i hanes, - mawr o ran maint, oblegid ymestyn o'r Borth i afon Llyfnant, terfyn gogleddol Sir Aberteifi. Y mae ei hyd 'fel yr heda'r fran,' neu'n fwy naturiol, fel yr eheda iâr ddŵr, yn chwe milltir, a'i lled yn dair milltir o odre'r mynydd, sy'n rhan o gadwyn Pumlumon, i relwe'r Cambrian (gynt) sydd fel llinyn ar draws ei hwyneb, rhyngddi a Dyfi a'r môr. Ar ei chanol y mae math o ynys led fawr, ac arni rai ffermydd da, a cheir hefyd ambell dŷ annedd, a hen waith mwyn plwm sy'n segur ers ugeiniau o flynyddoedd. Ond y mae'r gweddill o'r gors, a'r rhan fwyaf ohoni, yn siglen ddiwaelod a pheryglus. Tyf arni frwyn cryf a hesg sidanaidd, ac yma a thraw glystyrau o helyg. Nid oes yn bod gartref diogelach i'r geinach a'r hwyaden wyllt a'r crychydd glas, oblegid ni ddeil rhannau helaeth o'i chroen tenau fawr ddim trymach na phryf ac aderyn. Iddi hi hefyd y daw'r gog gynnar, ac ohoni, o odre coed y Gwynfryn, y daw ei chân gyntaf i drigolion dau blwyf.

Yng nghored Gwyddno Garanhir, tywysog Cantre'r Gwaelod, ar fin y gors ac ar ei chwr eithaf i'r deau, y cafwyd Taliesin Ben Beirdd. Y mae'r traddodiad yn hen bellach, â pheth o flas y Mabinogion arno, er nad oes a ŵyr yn sicr ei gychwyn, Yn fras a chynnil fel hyn y rhed. Ymhell yn ôl, ym Mhenllyn, preswyliai Tegid Foel a'i briod Ceridwen, ac iddynt fab a'i enw Afagddu, a oedd fel ei enw yn hagr - yr hacraf erioed a fu. Meddylio a wnaeth y fam, a phenderfynu ei harddu â phob gwybodaeth, a doethineb, a myned ati i ferwi pair er cael awen i'w mab hyll. Rhaid oedd cadw'r pair ar ferw didor am un dydd a blwyddyn. Casglodd Ceridwen bob rhyw lysiau rhinweddol o'r meysydd, a gosod y pair tan ofal Gwion Bach, o Lanfair Caer Einion, a gŵr gwan ei feddwl o'r enw Morda. A'r flwyddym bron ar ben, yn annisgwyliadwy neidiodd o'r berw dri diferyn a disgyn ar fys Gwion, a chan eu poethed trawodd yntau'r bys yn ei enau. Deallodd ar unwaith fyned holl rinwedd y pair i'w berson ef, a ffodd am ei einioes rhag llid Ceridwen. Erlidiodd hithau ef, a chanfu Gwion hi ac ymrithiodd yn ysgyfarnog; fe'i trodd Ceridwen ei hun yn filast ; neidiodd Gwion i afon a throi'n bysgodyn; hithau a drodd yn ddyfrast; trodd Gwion yn aderyn ; trodd hithau yn farcutan ; pan oedd hi ar ei ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith ar lawr dyrnu ysgubor, a disgyn iddo a myned yn un o'r gronynnau; trodd Ceridwen hithauyn iˆr a llyncu'r gronyn. Ymhen naw mis, ganed iddi faban a oedd mor dlws fel na allai feddwl am ei ladd, felly fe'i rhoes mewn corwg a'i daflu i'r môr.

Un min nos Calan Mai aeth Elffin, mab Gwyddno Garanhir, a oedd â'i fryd ar bysgota, i gored ei dad a oedd ar enau afon Eleri (cyn ei throi o'i gwely naturiol). Ni chafodd yno bysgod, eithr corwg ynglŷn wrth bawl y gored, ac yn y corwg y plentyn harddaf erioed. Cyn hardded oedd y mab bach ag y'i galwyd Tâl-iesin,- wyneb tlws, ysblennydd. Aed â'r plentyn i blasty Gwyddno, ac yn ôl yr hanes, yno y bu hyd oni foddwyd Cantre'r Gwaelod. Dihangodd Taliesin rhag y dilyw, a thrigo ar odre'r mynydd tan y Graig Fawr. Y mae ei fedd i'w weled ar uchaf y mynydd gerllaw Pensarn, filltir fawr o bentref Tre' Taliesin.

Dyna Gors Fochno - cartref yr Hen Wrach. Y mae llawer o draddodiadau a choelion Cymru yn gyffredin i'r holl siroedd, ond ni chlywais am draddodiad yr Hen Wrach yn unman ond ym mhlwyf Llancynfelyn. Yr oedd bri mawr ar y goel yn fy nyddiau bore, eithr nid oes iddi ie amlwg a phwysig ym mywyd y genhedlaeth bresennol, a hynny yn bennaf oherwydd cyfnewidiadau yn nulliau bywyd yr ardal. Nid yw'r wrach hon yn bod namyn yn y plwyf hwn, a da hynny, oblegid un a'i melltith yn filain ydyw. Nid oes a'i dinistria ond tân, a chan y trig mewn cors sy'n siglen ddyfrllyd, nid oes obaith am ei thranc hyd oni ddêl y dilyw tân, a rhaid i hwnnw losgi'n hir i'w llosgi hi.

Bu preswylwyr Tre' Taliesin yn 'ymladd byw', ys dywedant hwy, am genedlaethau yn gaeth i ofn yr Hen Wrach, ac er pob gwylio a gochel delid hwy ganddi - pob un yn ei dro. Ni ddihangodd ar ei melltith na dyn mewn oed na phlentyn. Yr oedd yn gwbl ddidrugaredd ac yn greulon fel angau. Yr unig beth â chysgod y da ynddo y gellir ei ddywedyd yn ei ffafr ydyw, ei bod yn hollol amhleidiol, oblegid nid arbedai oludog yn fwy na thlawd, y call yn fwy na'r angall. Melltithiai bawb.

Gwyddai'r trigolion mai'r gors oedd cartref y Wrach, a chredid yn gyffredin ei bod, o fewn cylch y gors, yn hollwybodol, ac yn ei gwaith o felltithio yn hollalluog. Ni ddeuai byth o'i chartref namyn yn nhrymder nos, a rhaid fyddai wrth nos dywyll a niwl tew. Cymaint oedd ei chywilydd rhag ei gweled, gan ei hacred, fel na symudai liw dydd nac yng ngolau'r lloer. Gan nad oedd brinder niwl a tharth ym mlynyddoedd rhwysg yr Hen Wrach, câi gyfleusterau mynych i droi allan, ac mor ddieflig oedd ei nwyd a'i gwanc fel mai anaml yr â'i cyfle heibio iddi'n ofer. Clywais i Fetsen, Llain Fanadl, ei gweled unwaith. Preswyliai Betsen fwthyn bregus ar fin y gors, ac un nos lwyd-olau a hi'n dychwelyd i'w thŷ o gasglu bonion eithin i achub tân trannoeth, gwelai ar ei chyfyl, yn eistedd ar dwmpath hesg, wraig hen â phen anferth ei faint, a'i gwallt cyn ddued â muchudd yn disgyn yn don fawr a thrwchus tros ei chefn ac yn ymgasglu yn glwstwr ar y ddaear. Swpera yr oedd ar ffa'r gors a bwyd llyffaint. Ar ei gwaith yn myned heibio, cyfarchodd Betsen hi â " Nos da." Neidiodd y Wrach ar ei thraed - yr oedd yn llawn saith droedfedd o daldra, ac yn denaa ac esgyrnog a melyngroen - a throi at Fetsen ac ysgyrnygu arni ddannedd cyn ddued ag afagddu, chwythu i'w hwyneb fel y chwyth sarff, a diflannu yn y gors. Dywedir na fu Betsen byth yr un ar ô1 y noson honno.

Poenwyd pentrefwyr Taliesin am genedlaethau gan afiechyd a oedd yn gyffredin i bawb. Math o gryd ydoedd, a'i nodweddion ya rhai hynod a chas. Dechreuai mewn teimlad llesg a chlafaidd, tebyg i saldra'r môr, ac yna ceid crynu mawr drwy'r holl gorff a barhâi am awr gron. Unwaith bob pedair awr ar hugain y deuai'r cryau, ac awr yn ddiweddarach bob dydd. Parhai felly am wyth neu ddeng niwrnod, a phan ballai grym y clefyd, a'r claf wedi troi ar wella, ceid diwrnod rhydd rhwng dau grynu, ac yna ddau ddiwrnod rhydd, ac wedyn dri, a'r dyddiau rhydd ya parhau i gynyddu hyd oni ddiflannai'r cryndod yn llwyr. Gallai'r claf droi allan ar y dyddiaa rhydd a chyflawni gwaith ysgafn, eithr rhaid oedd bod i mewn ddiwrnod y crynu. Yn un o'i lyfrau, dywaid Mr. Richard Morgan, M.A., Llanarmon-yn-Iâl, am eneth o Daliesin a fynychai ysgol Tal-y-bont, pentref cyfagos, pan oedd ef yn athro yno. Yr oead y plentyn yn glaf o'r cryd, ond yn gwella. Eithr nid oedd y crynu wedi ei llwyr adael. Ar derfyn yr ysgol un prynhawn, meddai hi wrth yr ysgolfeistr, "Please Sir, I shan't be in School to-morrow." "You shan't be in School to- morrow! and why ?" meddai yntau. " Please Sir, I shall be shaking to-morrow"

Achosid yr afiechyd gan yr Hen Wrach, a galwyd ef ar ei henw. Ar nos dywyll creai'r wrach darth tew a llaith a ymdaenai fel mantell a chyrraedd i oedre'r Graig Fawr, ac yn y tywyllwch pygddu hwnnw âi i fyny i'i pentref, ac er pob dyfais a gofal i'w chau allan, mynnai ei ffordd yn llechwraidd i'r tŷ a ddewisai, a chyniwair y tŷ hyd oni ddelai i ystafell gysgu, ac yno chwythu ei melltith ar y sawl a gysgai. Deffroai'r truan hwnnw drannoeth o gwsg anniddig, llawn o ysbrydion mileinig, a'i gael ei hun yn llesg a chlaf a digalon. Ymhellach ymlaen yn y dydd deuai'r crynu, ac am awr gyfan crynai'r claf oni chrynai'r gwely yntau - awr gron o grynu heb na hamdden na gallu i siarad na chwyno na dim ond crynu. Cyn nos âi'r sôn drwy'r pentref fod hwn a hwn ' yn yr Hen Wrach.' Anaml y ceisid gwasanaeth meddyg, oherwydd dau reswm. Yn gyntaf, yr oedd y pentrefwyr yn rhy dlawd i dalu am wasanaeth meddygon a drigai yn Aberystwyth a Machynlleth, naw milltir i ffwrdd. Mwynwyr oedd y gweithwyr bron i gyd, a'u cyflog i fagu llond aelwyd o blant heb fod tros ddeunaw swllt yr wythnos. Pan oeddwn i yn hogyn naw mlwydd oed, aeth i'm hysbryd surni a erys ynof byth, oherwydd marw o enyniad yr ysgyfaint un a oedd bron yn hanfodol i'm liwyddiant a'm cysur - gorfod marw cyn ei amser am nad oedd modd i dalu am feddyginiaeth. Credaf i ddegau farw ym mhentrefi bach Cymru drigain mlynedd yn ôl, ac wedi hynny, oherwydd bod yn rhy dlawd i dalu'r meddyg. Bydd galw uchel ar rywrai am gyfrif ddydd brawd. Yr ail reswm paham na cheisid meddyg at y claf ydoedd, nad oedd yn yr holl wlad feddyg a allai atal y cryd. Yr oedd yn rhaid i felltith y Wrach weithio'i chwrs. Anfynych y digwyddai i neb farw o'r Hen Wrach, ond y mae rhesymau tros gredu yr amharai'r afiechyd gymaint ar nerfau'r claf fel y dioddefai i ryw raddau yn y pethau hynny ar hyd ei oes.

Deugain mlynedd yn ôl peidiodd y cryd, ac ni flinwyd ganddo neb o'r pentrefwyr byth wedyn, a chredwyd yn sicr farw o'r Hen Wrach yng ngaeaf y flwyddyn y diflannodd yr afiechyd. Yn gyfamserol â'i marw hi bu llawer o gyfnewidiadau ym mywyd yr ardal, ac yn eu plith roddi heibio losgi mawn, a defnyddio glo yn eu lle. Eithr y mae'r Hen Wrach yn fyw o hyd. Cysga y mae yn y gors, a phan dderfydd glo Morgannwg a Mynwy deffry hithau, a bwrw ei melltith fel cynt, a gwelir y pentref yn crynu gan y cryd eto. Cysgu y mae'r Hen Wrach.




(Oddi allan "Coelion Cymru" gan Y Parch. Evan Isaac. Cyhoeddwyd gan Y Clwb Llyfrau Cymraeg, 1938) tud 42-49

Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]