Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Dogfennau Amrywiol
Miscellaneous documents


Google



Fy Ngwyliau

Taliesin,
Ceredigion

ANWYL GYFAILL,

Derbyniais eich llythr caredig mewn teimlad llawen iawn bore heddyw. Diolch i chwi am ysgrifennu. Yr wyf fi yn mwynhau fy hun yn dda iawn; yr hyn sydd yn diflasu peth ar y mwynhad yw, cofio fod pob dydd yn byrhau y pythefnos terfynedig i aros yma.

Y mae yma wlad agored prydferth iawn, a chaeau gwair, gyda'u harogl peraidd, ym mhob man lle'r eloch, a'r bobl wrthi yn casglu y gwair, ac yn ei gywain. Chwi synnech weld y gerddi mawrion sydd yma, a'r perllannau, a'r rhai hynny yn llawn ffrwythau o bob math, - afalau, eirin, ceirios, &c. Gan mai bechgyn ydym gyda'n gilydd, ac nad oes un Efa gyda ni, y mae yr holl ffrwythau welwn yn cael eu gadael ar y coed, heb eu cyffwrdd.

Y mae yr holl fynyddoedd oddeutu yma yn cael eu cuddio gan goed mawrion a bychain, ac y maent yn hardd iawn, yn enwedig yn awr, pan y mae dail o bob lliwiau yn cuddio y coed.

Yr oeddwn yn disgwyl gweld trefydd mawr yn Nhre Taliesin a Thalybont; ond, yn lle hynny, llefydd bychain iawn ydynt, o'u cymharu â threfydd sir Forgannwg. Gallwn ni gerdded milltiroedd yng Nghwm Rhondda ymhlith tai heb fynd allan ohonynt; ond yn Nhre Taliesin a Thalybont, erbyn y byddwch i mewn iddynt un ochr, yr ydych allan yr ochr arall. Tai bychain, isel, yw y tai gan mwyaf, ond y mae yma rai tai da iawn. Nid wyf wedi bod yn y Borth eto, ond yr wyf yn ei olwg bob dydd. Lle bach yw y Borth hefyd, nid yw yn ddim byd wrth Porth Cwm Rhondda, ac y mae tai y Borth i'w gweld oddiyma, pellder o bedair milldir, fel vans a'r môr tu hwnt iddynt.

Dyna wahaniaeth sydd yn y tanau yma i danau Cwm Rhondda. Nid glo sydd yn cael ei losgi yma, ond mawn, sef tir pwdr, wedi ei dorri yn ddarnau hirion, a'i sychu. Y mae tân mawn yn hawdd ei gynneu, ac y mae yn rhoddi gwres da. A chyda hynny, tân glan iawn yw tân mawn, nid yw yn trochi* popeth fel tân glo.

Un capel sydd yn Taliesin, Rehoboth yw ei enw, a chapel yn perthyn i'r Methodistiaid ydyw. Gwelais gapel yn Talybont hefyd, - Nazareth. Gofynnais i un yma am ystyr yr enw Taliesin, ac atebodd fi ei fod yn cael ei wneyd i fyny o ddau air, - "dalies un;" ond ni ddywedodd beth oedd yr un ddaliwyd. Feallai y gwnewch chwi alw hwn yn esboniad pen bys. Yr oeddych chwi dweyd mai oddiwrth Taliesin, bardd pennaf yr hen Gymry, agos bymtheg cant o flynyddoedd yn ol, y cafwyd yr enw, ac mai yn agos yma, ar lan y môr, y cafodd ei eni. Ar y mynydd gerllaw y claddwyd y bardd, ac y mae Bedd Taliesin i'w weld eto.

Yr oeddych yn gofyn gennyf am holi pwy ddynion enwog fu yn byw yn yr ardal yma, heblaw y pen bardd Taliesin. Hon yw gwlad Isaac Williams, bardd mawr y Puseyaid, ac hefyd Basil Jones, esgob Tyddewi cyn yr un presennol. Hon hefyd yw gwlad Isaac James, ac Azariah Shadrach, dau hen bregethwr enwog, y cyntaf gyda'r Methodistiaid aa'r olaf gyda'r Anibynwyr. O'r ardal hon hefyd y mae Mr. Richard Morgan, sydd yn medru ysgrifennu mor ddoniol am goed ac adar yn CYMRU'R PLANT a Chymru'r bobl fawr. Y mae yn bosibl fod rhai ereill wedi eu codi yma sydd yn gosod enwogrwydd ar y lle, ond yr hyn sydd yn gosod yr enwogrwydd mwyaf arno i mi yw mai yma y cafodd fy nhad ei eni a'i ddwyn i fyny; y mae hynny yn gwneyd y lle yn fwy enwog i mi nag hyd yn oed ei fod wedi bod yn gartref Taliesin, ac y mae hefyd yn ei wneyd yn lle mwy anwyl i mi nag un lle arall yr holl wledydd.

Bellach, dyma fi yn cau, am nad oes gennyf ddim arall i'e ddweyd wrthych yn awr, ac yr wyf yn gobeithio y gwelaf chwi yn fuan.

Yr eiddoch yn serchog,

D.R.EVANS
Ton, Ystrad.


*Gair sir Forgannwg am ddiwynu. Pan welir gwrthrych wedi ei daenellu â llwch, neu unrhyw fath o fudreddi, dywedir yno ei fod wedi ei drochi.


Cymru'r Plant, 1911, tud 237

Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]