Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Disgrifiadau a chyfeirlyfrau
Descriptions and directories


Google


Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol, 1875

Clawr y llyfr/ Book coverLLANCYNFELYN, sydd blwyf yn nosbarth Aberystwyth, swydd Aberteifi, yn agos i enau yr Afon Dyfi, ar derfynau rheilffordd Aberystwyth a glanau Mor Cymru, gerllaw gorsaf rheilfordd Ynys Las, 7 milltir gogledd ddwyrain o Aberystwyth. Y mae yn cynwys pentref Tre-Taliesin; yn llythyrfa Aberystwyth. Erwau, 6556, o'r hyn y mae 1535 dan ddwfr. Gwir werth meddianol, 2432p. Poblogaeth 967. Tai, 216. Y mae olion yn aros yma o Gastell Gwyddno, yr hwn a berthynai i Gwyddo Garan-hir, yr hwn a dywedir golli darn helaeth o dir yma, drwy orlifiad y mor. Barna rhai mai yn Nhre-Taliesin, y claddwyd y bardd enwog o'r enw hwnw; ac y mae carnedd ar y lle, sydd ar godiad y tir. tua 130 troedfedd o amgylchedd, a chistfaen yn ei chanol. Y mae glo, cerrig calch, marmor, mwn haiarn, a phlwm, yn cael eu codi a'u gweithio yn y cymydogaeth. Y mae y fywoliaeth yn ficeriaeth, yn esgobaeth Ty Ddewi; gwerth 90p. ac yn nawddogaeth J.P.B.Chichester, Ysw. Y mae yr eglwys yn adeilad da; yn sefyll ar y man ag y buasai un a godid yn y chweched ganrif; ac y mae wedi cael ei chysegru i St. Cynfelin.



"Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraphyddol" dan olygiad y Parch Owen Jones, Blackie a'i Fab, Llundain, 1875


Mae map y sir o'r un cyfrol ar gael hefyd.   A map of the county from the same volume is also available.


Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]