|
Het a wnaethpwyd gan hetiwr o Langynfelyn |
Hat made by a hatter from Llangynfelyn |
|
Llun o cwcwll tal traddodiadol Cymreig, a wnaethpwyd gan David Edwards, Amlwch, Sir Fôn, a anwyd yn Llangynfelyn yn 1801. Cyfranwyd y llun gan ei hen-hen-hen-ŵyr, Vaughan Williams Mae'r nodyn isod yn cofnodi ychydig am ei fywyd. |
Photograph of a traditional Welsh 'cwcwll tal' or tall hat. This was made by David Edwards, of Amlwch in Anglesey, who was born in Llangynfelyn in 1801. The photograph was contributed by Vaughan Williams, his great-great-great-grandson. The following short note about David Edwards records something of his life. |
Mr. Gol.,—Gan fod Mr. Jenkin Howell, yn ei lythyr ar y pwnc uchod yn Y Geninen am Orphenaf diweddaf, yn gwahodd ymdriniaeth bellach ar y mater, fe allai y gadewch i minau draethu peth o'm llên arno.
Tua thriugain mlynedd yn ol yr oedd yn Nhre'r Ddol, Sir Aberteifì, ddyn ieuanc, o'r enw Dafydd Edwards, yn gwasanaethu fel egwyddorwas i wneuth-urwr hetiau cyfrifol. Yr oedd Dafydd Edwards yn un hynod o ddeheuig fel gwneuthurwr hetiau merched, sef y Cwcwll Tàl." Symudodd o Dre'r Ddol i Amlwch, yn Ynys Mon. Bu yn cario ei grefft yn mlaen am lawer o flynyddoedd yn yr ynys yna ; a chadwai weithiwr, neu ddau, yn aml. Byddai un o honynt yn cynorthwyo Dafydd Edwards, ar amserau, i gludo pentyrau o hetiau o bob math i Aberdâr, Merthyr, Dowlais, Rhymni, Tredegar, a Phenycae, ac, yn neillduol i gymydogaethau y gweithfeydd efydd sydd o amgylch Abertawe, gan fod amryw yn y gweithiau yna wedi mudo iddynt o Waith Efydd Amlwch. Arferai "Dafydd Edwards y Ffeltiwr" gadw math o drafaeliwr, neu, hwyrach, y byddai yn fwy priodol ei alw yn "griwerthwr hetiau "— hat hawker: ac yn ychwanegol at hyn, byddai ei wraig yn aml yn myned ar bererindodau cwcwllyddol i Abertawe ; a chan ei bod yn eiddil o gorph adnabyddid bi wrtb yr enw gwerinol, "Y Ddynes Fach." Yr oedd hi yn fedrus iawn yn y gelfyddyd o wneyd plethiadau cawn.
Yr oedd Dafydd Edwards yn hanu o deulu parchus a chyfrifol o ochr ei dad; ond nid wyf yn gwybod ond pur ychydig am ei fam. Yr oedd Mrs. Edwards ("Y Ddynes Fach") yn ferch i arolygwr (supervisor), a bu yn exciseman yn Machyn-ìleth, a lleoedd ereill yn Nghymru, am flynyddoedd. Mab i Dafydd Edwards y Ffeltiwr oedd Mr. David Edwards, fferyllydd y Drug Hall, Amlwch.; ac y mae y block â'r hwn y byddai ei dad yn gwneyd y cwcwllau tàl yn ei feddiant ef yn awr : a'r tebyg yw nad oes un arall yn Nghymru, gan mai Mr. Edwards oedd 'yr unig wneuthurwr yn y wlad. Dygwyd y block a nodwyd ganddo o Dre'r Ddol i Amlwch, pan symudodd yno ar y cychwyn.
Bu farw yn y flwyddyn 1877, yn 75 mlwydd oed ; a chladdwyd ef yn meddrod y teulu, yn mynwent Eglwys Amlwcb : gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Roberts, y Ficer, yn ol dymuniad yr ymadawedig, — er ei fod yn cyrchu yn dra chyson i Bethesda, Amlwch — capel y Methodistiaid. Nai i Dafydd Edwards y Ffeltiwr yw y Parch. Evan Jones, offeiriad yr Eglwys Gymreig, Llundain; a nai arall iddo yw y Parch. Owain Jones, rheithor Tywyn, ger Harlech.
Nid yw yn debyg bellach y bydd i wragedd a llancesi Cymru wisgo y Cwcwll Tàl, gan y gwnae iddynt edrych yn chwithig iawn, yn yr oes luniaidd hon.
Brynamman.
T. P. Thomas.
Cwestiynau? Sylwadau? Beth ydych chi'n meddwl am y tudalen hwn a gweddill y wefan? Dywedwch yn y llyfr ymwelwyr. Questions? Comments? What do you think about this page and the rest of the site? Tell us in the guest book. |