Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records


Google



Y diwydiant mwyngloddiaeth

The mining industry

Neuadd yr Ynys

Mwyngloddio am blwm, copr ac arian oedd diwydiant mawr yn y plwyf am ganrifoedd. Yn yr adran hon y mae nifer o ddogfennau ac erthyglau am y gweithfeydd mwyn.

Mining for lead , copper and silver was a major industry in the parish for centuries. In this section are various documents and articles about the mines.

Ar y tudalen hwn...

On this page...


 

Gweithfeydd Mwyn Sir Aberteifi

...Nid oes sicrwydd i'r Rhufeiniaid fod yn gweithio yn y sir. Ond bernir oddi-wrth ryw olion a welwyd ynddynt, fod y rhai canlynol wedi ei gweithio ganddynt...Tre'r Ddol.

GWEITHIAU COPR

YNYS CYNFELIN. Yn 1760 cymerodd y cwmni a weithiai Esgair Hir hwn, a gweithiwyd ef ganddynt am ychydig. Cawsant nad oedd yn talu, a gadawyd ef am ddeng mlynedd, pan y cafodd ei ail gychwyn. Perthyn i Syr Pryse, Gogerddan. Gweithid ef ddechreu y ganrif o'r blaen gan mwnwr o sir Fflint. Ni wneir dim ynddo yn awr. Cynhwysa fwn plwm, copr a rhyw gymaint o efydd. Pris y plwm yn 1800 oedd un bunt ar bymtheg y dunell.

GWEITHIAU MWN PLWM A SINC

LLAIN HIR neu DRE'RDDOL. Bu hwn yn waith enillfawr iawn yn adeg y cwmni a ddilynodd Bushell. Rhoddwyd ei brydles i fyny gan gwmni Mackworth yn 1744. Ni fu gweithio ynddo ers blynyddau bellach.

PENRHIN GERWIN, yn agos i Daliesin, sydd wedi ei weithio am flynyddau, ac yn waith addawol iawn. Oherwydd rhyw anghydfod rhwng y cwmni gadawyd ef i aros ddwy flynydd yn ol.

BRYN YR ARIAN a PHWLL Y ROMANS. Dau waith yn agos i bentref Taliesin. Bu llawer iawn yn gweithio yn yr olaf a cholled fawr i'r cymdogaethau yw ei fod yn aros.

PEN PONTBREN A THANYRALLT. Dau waith yn agos i Dal y Bont fuont yn gweithio am flynyddau, ond a adawyd i aros. Nid ydynt wedi eu dihysbyddu eto.

David E.Bonner, Ochr Rhos, Pontarfynach

'Cymru', Cyf XXXVI 1909, tud 133, 181

 

Dogfennau eraill ar y safle

Other documents on the site


Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]