Y mae 21 cerrig coffa tu allan i'r Hen Gapel. Mae sawl yn coffáu mwy nag un person. Mae'r cynnharaf yn dyddio o 1845, ac yr olaf o 1900. |
There are 21 gravestones outside yr Hen Gapel, some commemorating more than one person. The earliest dates from 1845, the last from 1900. |
Coffadwriaeth am HANNAH, annwyl briod RICHARD JONES, Tre’ Taliesin, yr hon a fu farw Medi 15fed 1900, yn 73 mlwydd oed. "Mor ddedwydd yw y rhai trwy ffydd. Sy’n myn’d o blith y byw Eu henwau’n pêrarogli sydd A’u hun mor dawel yw." |
Yma gorphwys y rhan farwol o JAMES, mab RICHARD a HANNAH JONES, Tre’Taliesin, yr hwn a fu farw y 5ed dydd o Ionawr 1860, yn 2 flwydd oed. Yma gorphwys y rhan farwol o ANNE, merch RICHARD a HANNAH JONES, Tre’Taliesin, yr hon a fu farw y 6ed o Tachwedd 1863 yn 4 mlwydd oed. |
Coffadwriaeth am RICHARD JONES, Miner, Tre’ Taliesin, yr hwn a fu farw yr 2 dydd o Rhagfyr, 1864, yn 38 mlwydd oed. "Gwerthfawr y’ngolwg yr Arglwydd Yw marwolaeth ei saint ef." |
Coffadwriaeth am ELIZABETH, gwraig Cpt/II WILLIAM DAVIES, Llanarch, yr hon a fu farw Ionawr 16eg 1851, yn 76 mlwydd oed. |
Sacred to the memory of CATHARINE daughter of JOHN and ELIZABETH EVANS, Commercial Inn Tre’rddol who died 12th of April 1855 Aged 2 years. |
Er cof am WILLIAM JONES Wesley Terrace Tre’rddôl, yr hwn a fu farw Rhagfyr 12ed 1887 yn 60 mlwydd oed. "O’r llwch y gesglir perlau Duw
I harddu breiniol balas nef; Bydd coffrau’r bedd yn gyffro byw Pan eilw Crist ei saint i dref." "Ymbaratowch i Gyfarfod a Duw." "Deuwch i’r Farn" |
Er cof am JANE priod WILLIAM JONES Dole yn y Plwyf hwn: yr hon a fu farw Hydref yr 2il 1861 yn 54 mlwydd oed. "Gyda thi fy ngwraig anwylaf Yn y fedd yn fuan byddaf Ni chaf aros nemawr eto Cyn dod atat i orphwyso." "Ymbaratowch i Gyfarfod a Duw." "Deuwch i’r Farn" |
Er cof am JANE JONES, Anwyl ferch WILLIAM a JANE JONES Wesley Terrace Tre’rddôl, yr hon a fu farw Mai 14eg 1888 yn 34 mlwydd oed. "Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn Tebyg yw i hardd flodeuyn; Y bore tyf ac blodeua, Prydnawn yn gynar iawn y gwywa." "Ymbaratowch i Gyfarfod a Duw." "Deuwch i’r Farn" |
Coffadwriaeth am JANE, merch EVAN a JANE EVANS, Tre’rddôl: yr hon a fu farw y 12fed dydd o Chwefror 1863, yn 27 mlwydd oed. Hefyd am EVAN mab EVAN a JANE EVANS, yr hwn a fu farw y 30ain Dydd o Mai 1863, yn 22 mlwydd oed. |
Coffadwriaeth am JANE gwraig EVAN EVANS, Tre’rddôl, yr hon a fu farw yr wythfed ar hugain o Ionawr yn y flwyddyn MDCCCL yn naw a deugain oed. |
Coffadwriaeth am EVAN EVANS, Tre’rddôl, yr hwn a ddarfu ymadael ar byd darfodedig hwn Hydref y XXIVain yn y flwyddyn MDCCCLIII yn LVIII mlwydd oed. Hefyd er coffadwriaeth am ROWLAND mab EVAN a JANE EVANS yr hwn a fu farw Tachwedd y IVydd yn y flwyddyn MDCCCLIII yn VI mlwydd oed. |
Coffadwriaeth am WILLIAM mab EVAN a JANE EVANS Tre’rddôl, yr hwn a fu farw y 4ydd dydd o Mehefin 1860, yn 19 mlwydd oed. |
Er serchus cof am RICHARD EVANS, Tre’rddôl, Blaenor a phregethwr cynorthwyol fyddlawn gyda’r Wesleyaid am llawer o flynyddoedd. Hunodd Medi 18, 1897, yn 68 mlwydd oed. "Da, was da a ffyddlawn; buost fyddlawn, ar ychydig mi a’th osodaf ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd."
|
Coffadwriaeth am ELIZABETH, merch EVAN a JANE EVANS, Trer-ddôl, yr hon a fu farw y 7fed dydd o Tachwedd 1864, yn 22 mlwydd oed. |
Coffadwriaeth am ANN gwraig OWEN EVANS, o Park Gate yn y Plwyf hwn. Bu farw Medi 4ydd 1845, Oed 24. "A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: Honno yw colofn bedd Rahel hyd heddyw." Hefyd er coffadwriaeth am MARY OWEN, gwraig REES OWEN, Parkgate, yr hon a fu farw Mehefin yr 21ain 1859, yn 78 mlwydd oed. "Gwerthfawr y’ngolwg yr Arglwydd,
yw marwolaeth ei saint ef." |
Er cof am REES OWEN, Lodge Gate, bu farw Meh. 12ed 1857 yn 78 mlwydd oed. "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw."
|
Coffadwriaeth am HUGH HUGHES, Penpompren Cottage, yr hwn a fu farw Mehefin 24 1850 yn 36ain mlwydd oed. |
Sacred to the memory of MARY JONES the widow of RICHARD JONES late of Treftaliesin who died on the 4th day of December 1852 aged 69 years. |
In loving memory of DAVID OWENS, Tynwern, who died May 16th 1868 aged 48 years.
Also MARGARET his wife who died November 30 1890 aged 74 years. |
Er serchus cof am JAMES JONES, Tre’Taliesin, yr hwn a fu farw Mai y 3ydd 1880, yn 61 mlwydd oed. "Gwerthfawr y’ngolwg yr Arglwydd, yw marwolaeth ei saint ef." |
Y careg hon sydd er coffadwriaeth am JOHN mab HUMPHREY a MARY MORRIS, Talybont, yr hwn a fu farw Awst 18fed 1852 yn flwydd a chwech mis oed. |