Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records


Google



Trethi ar dir ac eiddo a Phrisiadau ystâdau

Taxes on land and property and Estate valuations

Yr oedd eiddo, tir yn arbennig, yn un o bethau hawsaf i'w rhoi treth arno. Mae rhestrau o'r rhai a dalodd y trethi gwahanol yn mynd yn ôl dros dair ganrif.

Property, land in particular, was the easiest thing to tax. Lists of those who had to pay the various taxes go back over 300 years.

Ar y tudalen hwn...

On this page...


 

Treth Aelwyd

Hearth Tax

O 1662 tan 1688, codwyd treth ar bob un simnai mewn annedd - y Treth Aelwyd. Dau swllt yr aelwyd oedd y dreth, ond nid oedd rhaid i'r tlodion ei thalu. Nid oedd y dreth yn llwyddiant mawr, ac ar ôl 1674, ni chasglwyd llawer ohoni.

Mae gennym trawsgrifiad adroddiad 1670 i Langynfelyn ar y wefan.

From 1662 until 1688 a tax was charged for each chimney in a dwelling - the Hearth Tax. The tax was 2 shillings per fireplace, but the poor were exempt. The tax was not a success, and little effort was made to collect it after about 1674.

We have a transcription of the Llangynfelyn return for 1670.


 

Treth Dir

Land Tax

I bob pwrpas, dechreuodd y dreth dir gyda Deddf 1692 (4 Will. & Mary, c.1), er bod trethi tebyg wedi'u codi cyn hynny, yn 1671 a 1688 er enghraifft.

Ar ôl 1745 mewn egwyddor, ond o 1780 yn ymarferol, taliad treth dir ar eiddo rhydd-ddaliadol gwerth £2 neu fwy yn flynyddol rhoddodd yr hawl i bleidleisio. O 1798 ymlaen gallai tirfeddianwyr adbrynu'r dreth dir. Er parhaodd enwau rhydd-ddeiliaid a adbrynodd eu treth dir ar gofnod er mwyn pwrpasau etholiadol hyd 1832, wedi hynny gallai eu hepgor. Diddymwyd y dreth dir yn swyddogol yn 1969.

Hyd yn lled ddiweddar credwyd bod yr unig asesiad treth dir ar gyfer Ceredigion a oedd ar ôl oedd 1798 yn yr Archifdy Gwladol. Ond, erbyn hyn, darganfuwyd nifer o asesiadau ar gyfer blwyfi ledled y sir i'r cyfnod 1780-1898 ymhlith cofnodion cyfreithiwr Aberystwyth (LlGC: Roberts & Evans 55-63). Mae'r rhain sy'n dilyn ar gael i Langynfelyn:

  • 1795 - (LlGC: Roberts & Evans 60/46/1)
  • 1798 - (AG: IR 23/113)
  • 1812-70 - (gyda bylchau) (LlGC: Roberts & Evans 60/46/2-38)

Y sawl sy'n dilyn sydd ar y wefan:

Gweler hefyd

The land tax is generally considered to date from the Act of 1692 (4 Will. & Mary, c.1), although similar taxes had been raised before, notably in 1671 and 1688.

From 1745 in principal, but from 1780 in practice, the payment of land tax on freehold property worth £2 or more annually established a man's right to vote. From 1798 landowners were able to redeem the land tax. Though for voting purposes the names of freeholders that had redeemed their land tax remained on record until 1832, thereafter they could be omitted. The land tax was formally abolished in 1969.

Until comparatively recently it was thought that the only LTAs to survive for Ceredigion were the 1798 records held by the PRO. However since then LTAs covering parishes throughout the county for varying periods within the range 1780-1898 have been found among the records of an Aberystwyth solicitor (NLW: Roberts & Evans 55-63). For Llangynfelyn the following survive:

  • 1795 - (NLW: Roberts & Evans 60/46/1)
  • 1798 - (PRO: IR 23/113)
  • 1812-70 - (with gaps) (NLW: Roberts & Evans 60/46/2-38)

The following are on this website:

See also

 

Prisiadau ystâd

Estate valuations

O dro i dro, ar ôl marwolaeth y perchennog er enghraifft, gwnaethpwyd prisiad prif ystâdau'r plwyf. Fel arfer maent yn cynnwys rhestrau tenantiaid, a'r rhent blynyddol a dalasant.

Mae sawl o'r prisiadau hyn ar y wefan:

From time to time, following the death of the owner for example, valuations were made of the principal estates in the parish. These usually included lists of tenants, and the annual rental they paid for their property.

Several of these are included here.


 

Asesiadau Ardreth y Tlodion

Poor Rate Assessment

Cyn i greadigaeth y Wladwriaeth Les, roedd cyfrifoldeb am gymorth i'r tlodion yn restio ar y plwyf lle gafodd y tlotyn ei eni. Fe ddaeth yr arian i dalu am y cymorth o ardreth gyffredinol ar drigolion y plwyf, seiliedig ar werth yr eiddo a meddiannwyd ganddynt. Rhoddwyd rhyddhad i bobl dlawd. Mae sawl rhestr o'r ardrethi a gasglwyd yn Llangynfelyn yn goroesi, sy'n dangos enwau'r perchnogion a meddianwyr yr eiddo yn y plwyf, faint y dalasant, a pwy a gafodd rhyddhad oherwydd tlodi.

Mae gennym adysgrifiad o'r rhestr i Langynfelyn ar gyfer Mis Hydref 1844 ar y wefan.

Prior to the creation of the Welfare State the relief of the poor was the responsibility of the parish where the pauper was born. The money to pay for the relief came from a general rate raised on the inhabitants of each parish, based on the value of the property they occupied. Exemptions were granted on account of poverty. Some lists of the rates collected survive, showing the owners and occupiers of the properties in the parish, how much they paid, and also those were excused due to poverty.

We have a transcription of the Llangynfelyn return for October 1844.


 

Deddf Cyllid 1910

Finance Act 1910

Cynigwyd y Deddf Cyllid yn 1910 dreth ar werth tir. Fel cam cyntaf, yr oedd e'n hanfodol dysgu pwy oedd yn berchen ar beth, a beth oedd defnydd y tir. Felly arolygwyd y wlad a chofnodwyd popeth yn yr hyn a elwir "Domesday Lloyd George". Ni chyflwynwyd y dreth erioed (wel, dim ar y pryd), ond goroesir y rhestru a mapiau sy'n mynd gyda nhw.

Mae gennym adysgrifiad o'r rhestr i Langynfelyn ar y wefan.

The Finance Act of 1910 proposed a tax on land values. As a first stage it was necessary to find out who owned what and what it was used for, and so the country was surveyed and everything recorded in what become known as "Lloyd George's Domesday". The tax was never actually introduced (well, not then), but the lists and accompanying maps still survive.

We have a full transcription of the Llangynfelyn return.


Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]