DYDDIADUR CLODDIO LLANGYNFELYN
Llwybr Coed Ganol Oesol yn LLANGYNFELYN ger
TALYBONT

Yn ystod Mehefin 2004 cychwynnodd Cambria ar gloddio
rhan o lwybr coed ganol oesol a oedd yn croesi Cors Fochno yng Ngheredigion.
Roedd yn bosib gweld y llwybr ar yr wyneb yn debyg i fancin isel
yn croesi’r tir porfa. Bygythiad llym i barhad yr elfennau
o goed nodweddiadol yma oedd draenio’r tir a gwelliannau amaethyddol
eraill. Penderfynwyd felly ar waith o gloddio achubol wedi’i
ariannu gan Cadw . Roedd y cloddio hefyd yn gyfle o hyfforddiant
i fyfyrwyr o Athrofa Archeoleg a Hynafiaeth Prifysgol Birmingham
Roedd y coedydd yn ffurfio ffordd gerdded tua 1.5m
o led ac roedd cyfres o begiau neu bolion ,wedi’u bwrw i’r
mawn ,yn cefnogi’r holl strwythur .Wedi hyn, fe orchuddiwyd
y llwybr gan haenau o raean a oedd, i bob pwrpas ,yn ffurfio heol
ar draws y gors. Darganfuwyd dau o ddyddiadau radiocarbon allan
o ddau o’r coedydd yn dyddio i’r 10 fed- 11eg ganrif
AD ac mae dyddiadau dendroconolegol yn awgrymu y cwympwyd y coedydd
yma rhwng AD1080 a AD1120.
Ger terfynfa y de ,o’r sarn weladwy, fe welwyd
fod y llwybr yn gorwedd dros ardal eang o ysbwriel diwydiannol a
llosgfeydd. Yn ôl yr hyn a awgrymwyd gan yr archwiliad cychwynnol
o samplau o’r gwastraff fe gredir fod canran uchel o wastraff
plwm yno, a oedd felly yn awgrymu fod mwyn blwm wedi’u mwyndoddi
yn yr ardal gyfagos .Yn ddiweddar, fe dderbyniwyd dau ddyddiad radiocarbon
o 60 BC –AD90 ac AD20?220 am olosg o’r olion diwydiannol
yma sy’n awgrymu dyddiad hwyr o’r Oes Haearn neu’r
Oes Rhufeinig .
Sut y mae’r gweithgarwch diwydiannol yma
yn cysylltu gyda’r llwybr? Awgryma’r dyddiadau fod bwlch
hir o amser rhwng y ddau. Fodd bynnag, mae yn bosib bod y dyddiadau
radiocarbon o’r golosg allan o hen goedydd neu goed wedi’u
hail ddefnyddio. Posibilrwydd arall yw, bod gwaith diwydiannol wedi
parhau yn bell ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid a bod y llwybr yn
dyddio at ddefnydd diweddarach, hyd yn oed yn cysylltu gyda gweithgaredd
chwarelyddol ar ‘ynys’ Langynfelyn i’r Gogledd.
Bydd tymor arall o gloddio ar y safle ym mis Mehefin
2005 i ganiatáu ymchwiliadau trylwyr o’r gwaith diwydiannol
a gysylltir gyda phen deheuol y llwybr. Unwaith eto, ein bwriad
yw i sicrhau y bydd cydweithio rhwng y gymuned leol yn galon i’r
prosiect gyda’r newyddion diweddaraf ar ein gwefan.
Dydd Agored Cloddiad Llangynfelyn
Mae dydd agored i'r cyhoedd o'n cloddiad o'r llwybr
pren a'r ardal diwydiannol yn Llangynfelyn ger Talybont, Ceredigion
ar Ddydd Sadwrn 11 Mehefin. Fe fydd cyfle i ymwelwyr i weld y cloddiad
rhwng 11.00yb a 4.00yp gyda troeon am ddim ac arddangosfa.
Map yn dangos lleoliad
y cloddio
Dyddiadur Cloddio Llangynfelyn
2004
Dydd
1 (Mai 31) - Mae'r gwaith gan y peiriant cloddio
wedi cychwyn gyda'r tywydd yn glir ac yn heulog. Rydym
wedi penderfynu edrych eto ar ben Deuol y llwybr pren
i ymchwilio ei berthynas a'r olion diwydiannol a gafodd
eu darganfod ym Mehefin 2004. Ar ol cael gwared a'r
pridd, mae'r ffos newydd hon (Ffos 6) wedi ymddangos
mannau mawr o losgi a sbwriel. Mae ymchwil o'r sbwriel
hwn wedi dangos lefel uchel o blwm sydd yn awgrymu ei
fod wedi dod o waith toddi plwm. Mae'r dyddiadau radio-carbon
yn awgrymu dyddiad Rhufeinig.
|

Cyfarwyddwr y safle, Nigel Page, gyda Eifion
Jenkins sydd yn gyrru'r peiriant
|
|
Dydd
2 (Mehefin 1) – Mae'r tywydd wedi gwaethygu.
Mae'r myfyrwyr o Birmingham yn treulio eu diwrnod cyntaf
ar y safle yn y glaw neu yn cysgodu wrth y glaw! Beth
bynnag mae dilyniant da yn cael ei wneud ac mae'r ffos
gloddio yn dechrau ymffurfio. |

Mae'r cloddiad yn cael ei ymwelwyr cyntaf!
|

Y myfyrwyr yn cysgodu oddiwrth y glaw yn y portacabin
|

Glanhau gwyneb uchod y sbwriel diwydiannol
|
|
Dydd
3 (Mehefin 2) – Rydym yn parhau i wneud
dilyniant da ynglyn a glanhau'r safle. Mae prenau'r
llwybr coed yn dechrau ymddangos ac mae'n edrych fel
petaent wedi eu cadw yn dda iawn yn yr fan hon. |

Glanhau prenau y ffordd bren
|
|

Y cloddiad o'r cae i'r De. Mae'n bosib fod
y ffrwnesau toddi metel yn y cae yma.
|
|
Dydd
4 (Mehefin 3) - Mae gwaith yn dechrau ar wneud
cynllun o'r ffos cyn cloddio. Rydym yn awyddus i gofnodi
a symud y llwybr coed cyn gynted ac sy'n bosib fel y
gallwn archwilio'r olion diwydiannol sy'n yn gorwedd
isod. |

Paratoi cynllun o Ffos 6
|
|
Dydd
5 (Mehefin 6) – Rydym hefyd yn dechrau
gwaith ar gyfres o gloddiadau bach arbrofol yn y cae
drws nesaf, lle credwn fod llwyfannau ar gyfer i ffwrnesau
toddi metel. Mae ein cymdogion yn dangos llawer o ddiddordeb!
|

Cloddio un o'r ffosydd arbrofol yn y cae drws
nesaf
|
|

Ein cymdogion yn dangos diddordeb
|
|
Dydd
6 (Mehefin 7) - Rydym wedi parhau i agor
cyfres o gloddion arbrofol i benderfynnu ehangder
y gweithgareddau diwydiannol. Mae'n amlwg ei fod yn
ymestun dros arwynebedd mawr iawn o fewn nifer o gaeau.
Mewn un o'r cloddion arbrofol yr ydym wedi darganfod
nifer o ddarnau o gerrig llosgedig gyda arwynnebbau
sgleinig - bron yn sicr yn rhan o'r ffwrneisiau toddi
- a tameidiau a slag metel. Hyd yn oed yn fwy cyffroes
oedd darganfod darnau man o wydr. Rydym bron yn sicr
taw gwydr Rhufeinig ydyw ac mae'n edrych fe pe bai'n
cyfateb a'r dyddiadau radiocarbon o'r gwaelodion diwydiannol.
|

Chwistrelli prennau y llwybr i atal nhw rhag
sychu allan
|

Tamaid o leinin y ffwrnais a'r
slag metel |

Y gwydr Rhufeinig dichonadwy o un o'r cloddiadau
arbrofol
|
|
Dydd
7 (Mehefin 8) - Ein hymweliad cyntaf gan
ysgol leol - Ysgol Llangynfelyn. Mae mwy o'r cloddion
arbrofol yn cynhyrchu darnau man o leinin y ffrwnais.
Mae'n edrych fel pe bai'n bosibl yr oedd yno nifer
o ffwrneisiau bach mewn nifer o fannau gwahanol ar
hyd y safle.
|

Richard Jones yn dangos am gwmpas ymwelwyr
o Ysgol Llangynfelyn
|
|

Gwiath cloddio yn un o'r cloddion arbrofol
|
|
Dydd
8 (Mehefin 9fed) - Mae arwyneb y llwybr yn
Ffos 6 nawr wedi ei lanhau a'i gofnodi. Mae wedi ei
gadw yn dda iawn yn y rhan yma ac mae'n ymddangos ei
fod wedi ei adeiladu o ganghenau wedi ei hollti yn ddau
gyda'r ochrau gwastad i lawr. Rydym yn ddrwgdybio fod
y rhan fwyaf o'r prennau naill ai yn wern neu yn dderw.
Mae'r rhisgl dal i fod yn weladwy ar wyneb uchaf y prennau
unigol. Awgrymir y diffyg traul a'r wyneb garw mai nid
hwn oedd arwyneb cerdded gwreiddiol y llwybr. Sylwyd
yn y fan yma ac mewn mannau eraill fod y prennau wedi
eu gorchuddio a graean sy'n awgrymu roedd yr arwyneb
cerdded gwirioneddol yn lwybr graean ac nid yn droedffordd
estyll. Mae'n edrych fel pe bai bwriad y fframwaith
pren oedd atal y graean rhag suddo i mewn i'r gorstir
- 'ffordd arnawf' mewn gwirionedd. |
|
|

Manylion am yr arwyneb pren
|
|
Dydd
9 (Mehefin 10fed) - Nid ydym erbyn hyn wedi
dod o hyd i union lleoliadau y ffwrneisiau toddi metel.
Er hynny, rydym wedi darganfod llawer mwy o ddarnau
man o leinin y ffwrnais llosg. Mae'r gwaelodion diwydiannol
hefyd yn ddwfn iawn mewn nifer o'r Cloddiadau Arbrofol.
Cafwyd mwy o ymweliadau gan ysgolion - y tro yma gan
ysgol Craig yr Wylfa, Y Borth ac ysgol Talybont. |

Rhaniad o un o'r Cloddiadau Arbrofol yn dangos
y golosg a'r teilchion diwydiannol yn gorwedd uwchben
mawn cochddu y gorstir
|
|
Dydd
10 (Mehefin 11eg) - Cawsom Ddiwrnod Agored
llwyddiannus dros ben gyda thros cant o ymwelwyr yn
cael taith tywysedig o'r cloddiad. Roedd yr ymwelwyr
yn cynnwys cynghorwyr lleol ac aelodau o'r Clwb Archaeolegwyr
Ifanc lleol. |

Golygfa cyffredinol o'r cloddiad yn dangos rhai
o'r ymwelwyr yn ystod y Diwrnod Agored
|
|
Dydd
11 (Mehefin 13eg) - cafodd y rhan fwyaf o'r
diwrnod ei wario yn cofnodi a chodi prennau o'r brif
ffos a chasglu enghreifftiau amgylcheddol. Cynorthwywyd
gan arbenigwyr o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan yn
cynnwys Nigel Nayling ac Astrid Caseldine. |

Archwilio yn ardal y brif ffos
|
|

Nigel Nayling o Brifysgol Llanbedr-Pont-Steffan
yn casglu enghreifftiau o brennau o'r droedffordd
|
|
Dydd
12 (Mehefin 14eg) - Mae mwyafrif o'r droedffordd
nawr wedi cael ei godi a gwariwyd y bore yn clanhau
y gwaelodion diwydiannol islaw ar gyfer lluniau cyffredinol.
Dechreuwyd y gwaith cloddio ar y gwaelodion yma yn y
prynhawn. Yn y cyfamser fe ddaeth yr arbenigwyr o Brifysgol
Llanbedr-Pont-Steffan yn ol i'r safle i gymryd nifer
o greiddiau o'r mawn nesaf at y droedffordd. Maent yn
gobeithio defnyddio'r paill o'r creiddiau yma i siartio
y newid yn y tirlun a'r tyfiant dros amser. |

Myfyrwyr Birmingham yn arddangos yn urddasol
rhai enghreifftiau o'r prennau a gasglwyd o'r droedffordd
|
|

Mae gan nifer o'r polion unionsyth a morthyliwyd
i mewn i'r mawn y ddwy ochr i'r droedffordd blaenau
miniog
|
|
Dydd
13 (Mehefin 15ed) - O'r diwedd mae gennym rhywfaint
o dystiolaeth am wir safle y ffwrnais toddi metel. Roedd
wedi ei lleoli yn un o'r Pyllau Arbrofol ac amlygir
yn ffyrnigrwydd y llosgiad o'r pridd o gwmpas. Cynhyrchodd
y Pwll Arbrofol yma hefyd maint helaeth o leinin ffwrnais.
Yn y cyfamser, roedd gwaith archwilio yn parhau ar y
gwaelodion diwydiannol o dan y droedffordd pren. |

Clanhau'r gwaelodion diwydiannol o dan y droedffordd
pren
|
|

Hannah yn gweithio ar safle tebygol y ffwrnais
toddi metel
|
|
Dydd 14 (Mehefin 16eg) - diwrnod
llawn olaf y cloddiad. Yfory fe fydd y myfyrwyr yn
dychwelyd i Birmingham. Gwariwyd y diwrnod yn samplu
y gwaelodion o dan y droedffordd a chwblhau cofnodi
terfynol o'r safle.
Mae canlyniadau'r cloddiad wedi bod
yn foddhaol dros ben. Rydym nawr wedi egluro natur y
weithgaredd diwydiannol. Mae'n edrych yn debyg o hyd
fod y safle yn cynrychioli toddi metel plwm yn dyddiadu
i gyfnod y Rhufeiniaid. Fe fydd angen gwneud gwaith
dyddiadu pellach a dadansoddiadau eraill ar yr holl
samplau a gasglwyd er mwyn cadarnhau'r dehongliad yma.
Mae'r Pyllau Arbrofol nawr hefyd wedi dangos maint y
safle ac mae'n llawer mwy na'n hamcan gwreiddiol. Mae'n
rhedeg am o leiaf 200m ar hyd ymyl y gors ac mae o leiaf
50m mewn lled.
Rydyn ni hefyd wedi casglu gwybodaeth
newydd am natur y droedffordd ddiweddarach. Mae'n edrych
yn degyb nawr fod yr elfennau pren wedi rhoi sylfaen
i'r llwybr graean i'w hatal rhag suddo i mewn i'r gors.
Gan ein bod ni nawr wedi darganfod
lleoliad tebygol y ffwrnais, rydym yn awyddus nawr i
edrych ar y prydwedd yma yn fwy manwl. Gobeithio y byddwn
yn medru codi arian i ymgymryd a thymor arall o waith
blwyddyn nesaf. Yn y cyfamser, hoffem ddiolch i Brifysgol
Birmingham a Chadw am eu cyfraniad ariannol am eleni
a diolch yn arbennig yr holl staff yng Nghambria a Llanbedr-Pont-Steffan,
myfyrwyr Birmingham a'r gwirfoddolwyr eraill am wneud
y gwaith tymor yma mor llwyddiannus.
|

Catherine yn cwblhau cynllun terfynol ar un o'r
ffosydd

Llun grwp olaf y myfyrwyr o Birmingham
|
|
|