Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education


Google


[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 3 - Hoff Rodfa Fy Mabolaeth, gan Elfyn Jenkins

Yr oeddwn i'n arfer synio erstalwm fod plant gweinidogion Wesle yn debyg iawn i sipsiwn mewn un peth: pobl grwydrol oeddent, pobl heb wreiddiau, creaduriaid nad oedd iddynt ddinas barhaus. A gallai trefn John Wesley, gyda'i newid aelwyd bob tair blynedd, ddrysu cryn dipyn ar yrfa addysg plant y Mans. Dysgais innau yn fuan fod rhagor rhwng ysgol ac ysgol mewn trefn disgyblaeth, ac oso edd plentyn yn ddigon ffodus i gael cychwyn da, yr oedd gobaith iddo.

Er imi dreulio rhai wythnosau mewn ysgol yn Sir Fynwy, ni chofiaf ddim am y cyfnod hwnnw. Ond erbyn inni symud fel teulu i Dre'r-ddol yr oeddwn wedi cyrraedd oedran dechrau mynd i'r ysgol o ddifrif, a dyma gychwyn yn ysgol Llangynfelyn. Hon i bob pwrpas oedd fy ysgol gyntaf, a phan fyddaf yn meddwl am "ddyddiau ysgol", cofio y byddaf am y tair blynedd a dreuliais yno. Blynyddoedd yr hafau hirfelyn a'r gaeafau gwynion oedd y rheini; dyddiau gosod i lawr sylfeini cadarn ac yfed o ffynhonnau dysg. O'r herwydd, y mae fy nyled yn fawr i'm prifathro cyntaf, Mr. Dennis Hughes, ac i'm hathrawesau; i Miss Katie Isaac, nad yw wedi newid fawr ddim o ran pryd a gwedd er y dyddiau cynnar hynny,i Miss Laura Pugh; ac i'r diweddar Mrs. Llewelyn Jenkins (Miss Olwen Jones, bryd hynny) a geisiodd heb fawr o lwyddiant wneud adroddwr ohonof. Nid arni hi yr oedd y bai iddi fethu. Nid oedd gennyf, ysywaeth, ddigon o hyder i sefyll o flaen dosbarth fel rhai o'm cyfoedion. Cofiaf yn dda am ddau ohonynt, ac fe'u gwelaf yn awr. Arferai un sefyll yn hollol lonydd a'i gefn at y lle tn a'i lygaid wedi eu hoelio ar y mur o'i flaen fel pe bai'r geiriau a adroddai yn ysgrifenedig arno; a rhwng pob pennill codai ei olygon tua'r to fel pe bai'n disgwyl cymeradwyaeth oddi fry. Safai'r Hall 'i goesau ychydig ar led yn debyg iawn i'r llythyren A ei ddwylo y tu l i'w gefn a'i gorff yn symud o'r naill ochr i'r llall fel bys metronm.

Yn yr ystafell honno y dysgais lafarganu y tablau; yno y dysgais lunio brawddegau a gwahaniaethu rhwng coma a ffwl-stop er y tystiai Miss Isaac fod y naill yn debycach i benbwl a'r llall, o ran maint,yn debyg iawn i farblen. Yno hefyd y dysgais sgrifennu am y tro cyntaf a phin ac inc a dod i wybod fod y fath beth nib yn bod a hynny mewn modd nad anghofiaf byth. "Ewch at Mr. Hughes a gofyn iddo am ychydig o nibs", meddai Miss Isaac un bore, a gwthio pin sgrifennu i'm llaw i wneud yn siwr fy mod i'n cael y math iawn, mae'n debyg. Nid oeddwn wedi clywed y gair o'r blaen,. ac fe swniai'n air od iawn i mi. Yn wir, erbyn cyrraedd ystafell y prifathro yr oeddwn yn dechrau amau a oeddwn wedi deall Miss Isaac yn iawn. Curo wrth y drws a cherdded i mewn i'r ystafell, a chael Mr. Hughes yn sefyll o flaen dosbarth o blant hynaf yr ysgol. "Wel? " gofynnodd. Edrychais arno yn swil. "Mae Miss Isaac yn gofyn am .... am. . . . " A fedrwn i fentro yngan y gair rhyfedd? "Gofyn am beth? " "Yn gofyn am un o'r pethe yma", atebais, gan bwyntio at flaen y pin sgrifennu yn fy llaw. Chwarddoddy dosbarth. "Nibs ydych chi'n feddwl? " gofynnodd y mistar. "Ia, syr". "Wel pam na ddywedwch chi hynny? 'Un o'r pethe yma' wir". A chwarddodd y dosbarth yn uwch. Fy unig gysur bellach wrth gofio'r achlysur hwnnw yw meddwl y gall fod yna blentyn, yn oes y beiro a'r pin belbwynt, mor anwybodus a mi, a heb glywed eto am y gair a achosodd gymaint o ddiflastod i mi a difyrrwch i eraill y dwthwn hwnnw.

Gan fy mod yn ystafell y prifathro, cystal imi sn am y wers honno pan geisiais, er mawr ofid imi, ddangos tipyn o wreiddioldeb. Gwers arlunio ydoedd a Mr. Hughes wedi rhoi cerdyn hirsgwar i bob un ohonom. Ar y cerdyn yr oedd amlin ysgafn o flodeuyn, a'r dasg oedd mynd dros y llinellau phin ac inc. Wedi gwlychu'r nib yr oeddwn yn hen gynefin a'r gair hwn bellach
Plant yr ysgol ym 1924
Plant yr ysgol ym 1924
The children of the school in 1924.
trois i siarad 'r sawl a eisteddai y tu l imi, ac wele ddeigryn o inc yn disgyn ar y cerdyn blotyn du ar yr eira gwyn megis. Beth nesaf, tybed? Cerydd am fod mor esgeulus? Cosb am andwyo'r cerdyn? Ac nid oedd sylw un o wehelyth cysurwyr Job a eisteddai wrth fy mhenelin fawr o help imi. "Dyna ti wedi'i gwneud hi 'nawr", meddai. Ond fe gefais fflach o weledigaeth a ddaw weithiau i ddyn mewn argyfwng. Wedi incio'r llinellau, trois y blotyn du yn belen hirgron a'i chysylltu yn ddyheuig (yn fy nhyb i) with goes y blodeuyn. Daeth y prifathro heibio i'r ddesg. Disgynnodd ei lygaid ar y cerdyn, a disgynnodd y riwler yn ei law ar fy ysgwydd. "Clyfar iawn", meddai a chipiodd y cerdyn oddi ar y ddesg a'i rwygo'n ddarnau mn. Nid oddi ar ddrain y cesglir grawnwin, ac nid ar goes blodyn llygad llo mawr y tyf eirin duon bach.

Yn y dyddiau hynny yr oedd rhywbeth newydd i'w ddysgu bob dydd. A dysgais rai pethau y tu allan i furiau'r ysgol nad oedd ar lyfrau'r athrawon. Yr oedd hi'n arferiad gan y rhai hynny ohonom, na threuliai'r awr ginio yn cicio pl, eistedd yn rhes 'n cefnau yn erbyn wal yr ysgol yn naddu cerrig. Un prynhawn, a chriw bach ohonom with y gorchwyl hwnnw, penderfynodd un o'r bechgyn ei bod yn hen bryd imi ddysgu rhegi. Ac wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi meistroli un gair arbennig, fe'm hanogwyd i gyfarch un o'r bechgyn hŷn, a ddigwyddai fynd heibio inni, a'r gair hwnnw. Edrychodd hwnnw yn sarrug arnaf, ac ni fu fawr o Gymraeg, gweddus nac anweddus, rhyngom am rai misoedd wedi hynny.

Ffordd arall gennym o dreulio amser chwarae neu'r awr ginio oedd sefyll 'n pwys yn erbyn reilin yr ysgol yn gwylio'r ychydig gerbydau a i heibio. A thipyn o arwr oedd hwnnw yn ein plith a fedrai adnabod pob car with ei enw. Dyna pryd y gwelais hers fodur am y tro cyntaf, neu "moto coffin" fel y galwodd un o'r cwmni hi. A dwg hyn ar gof imi y tro hwnnw y bu bron i mi gael taith annhymig yn un o'r cerbydau hynny. Ni wn hyd heddiw paham y gwneuthum beth morberyglus o ffl, ond with ruthro allan o iard yr ysgol un prynhawn, rhedais ar draws y ffordd yn union o flaen bws yn teithio i gyfeiriad Machynlleth. Ni wn pwy ohonom a gafodd fwyaf o fraw myfi neu fy nghyfeillion neu'r gyrrwr. Clywaf yn awr eiriau fy nain pan glywodd yr hanes "Beth pe bai'r bachgen wedi dod adre'n gorff! " Erbyn y bore yr oedd y stori wedi cyrraedd clustiau'r prifathro a chefais gerydd ganddo o flaen y dosbarth nad anghofiaf byth.

William Basil Jones, Gwynfryn, Esgob Tyddewi
W. Basil Jones, Gwynfryn, Esgob Tyddewi
W. Basil Jones, Gwynfryn, Bishop of St Davids.

Y mae clywed ambell bwt o gn neu weled ambell flodeuyn neu glywed aroglau clai neu ddillad gwlyb yn aml yn dadrowlio ffilm y blynyddoedd, a gwelaf eto'r ystafell lle byddem yn cael gwers mewn canu, y potiau jam ar silffiau'r ffenestri, a'r lobi yn llawn o gotiau a wlychwyd yn y glaw. Cofiaf yn dda am un bore pan lanwyd yr ystafell a rhyw berarogl hyfryd, hyfrytach na dim a ddeuai o gyfeiriad y potiau blodau. Daeth y prifathro i mewn i'r ystafell a'i riwlar yn ei law. Safodd am ennyd o flaen y dosbarth, yna dechrau holi'r merched bob yn un a gofyn iddynt a fuont yn ymhel photeli scent eu mamau, a phob un ohonynt yn ysgwyd ei phen. Yn sydyn trois ataf fi, a disgynnodd y riwlar whap! ar y ddesg o'm blaen. "Ydych chi wedi bod yn iwsio oel gwallt eich tad? " gofynnodd. Nid oeddwn wedi clywed am y fath beth erioed; yr oedd y gair mor ddieithr i mi 'r nib bondigrybwyll hwnnw beth amser ynghynt. A'r unig beth a welswn fy nhad yn rhoi ar y tipyn gwallt a oedd ganddo oedd diferyn o ddwr yn awr ac yn y man. Ni chofiaf a lwyddwyd i ddatrys dirgelwch y perarogl ai peidio, ond fe ddaw'r diwmod hwnnw yn fyw i'm cof bob tro y clywaf adrodd y geiriau hynny "Iraist fy mhen ag olew".

Ymhen tair blynedd ar l cychwyn yn yr ysgol, daeth yn adeg inni symud unwaith eto). Ond nid oedd Machynlleth mor bell hynny o Dre'r-ddl a medrais gadw mewn cyswllt 'm hen athrawon a'm cyd-ddisgyblion. A hyd yn oed ar l mudo i Sir Fn, cawn gip ar yr ysgol wrth deithio yn awr ac yn y man tua'r deau, a sylwi fod yr hen ysgol yn dal yr un fath yn allanol, o leiaf.

Cor Plant yr ysgol yn cychwyn i Eisteddfod Tywyn ym 1910.
Cor Plant yr ysgol yn cychwyn i Eisteddfod Tywyn ym 1910
The children's choir departing for Tywyn Eisteddfod, 1910

Rai blynyddoedd yn l, pan oedd fy mhlant yn mynychu'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth, deuthum i adnabod y diweddar gyfaill hoff Mr. Huw J. Evans a fuasai am gyfnod yn brifathro yn fy hen ysgol. Treuliais lawer orig ddifyr yn ei gwmni, a chad ei fod ef wedi bod yn dysgu plant y rhai a oedd gyda mi yn yr ysgol yn y dauddegau. A thrwyddo ef, teimlwn fy mod unwaith eto mewn cyswllt ag ysgol Llangynfelyn.

Ysgol Llangynfelyn, fy ysgol gyntaf, ac yng ngeiriau'r bardd a ganodd am ei ysgol yntau,

        "Hoff rodfa fy mabolaeth
        Chwaraele bore 'myd".
[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]