Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education


Google


[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 3 - Hoff Rodfa Fy Mabolaeth, gan Elfyn Jenkins

Yr oeddwn i'n arfer synio erstalwm fod plant gweinidogion Wesle yn debyg iawn i sipsiwn mewn un peth: pobl grwydrol oeddent, pobl heb wreiddiau, creaduriaid nad oedd iddynt ddinas barhaus. A gallai trefn John Wesley, gyda'i newid aelwyd bob tair blynedd, ddrysu cryn dipyn ar yrfa addysg plant y Mans. Dysgais innau yn fuan fod rhagor rhwng ysgol ac ysgol mewn trefn disgyblaeth, ac oso edd plentyn yn ddigon ffodus i gael cychwyn da, yr oedd gobaith iddo.

Er imi dreulio rhai wythnosau mewn ysgol yn Sir Fynwy, ni chofiaf ddim am y cyfnod hwnnw. Ond erbyn inni symud fel teulu i Dre'r-ddol yr oeddwn wedi cyrraedd oedran dechrau mynd i'r ysgol o ddifrif, a dyma gychwyn yn ysgol Llangynfelyn. Hon i bob pwrpas oedd fy ysgol gyntaf, a phan fyddaf yn meddwl am "ddyddiau ysgol", cofio y byddaf am y tair blynedd a dreuliais yno. Blynyddoedd yr hafau hirfelyn a'r gaeafau gwynion oedd y rheini; dyddiau gosod i lawr sylfeini cadarn ac yfed o ffynhonnau dysg. O'r herwydd, y mae fy nyled yn fawr i'm prifathro cyntaf, Mr. Dennis Hughes, ac i'm hathrawesau; i Miss Katie Isaac, nad yw wedi newid fawr ddim o ran pryd a gwedd er y dyddiau cynnar hynny,i Miss Laura Pugh; ac i'r diweddar Mrs. Llewelyn Jenkins (Miss Olwen Jones, bryd hynny) a geisiodd heb fawr o lwyddiant wneud adroddwr ohonof. Nid arni hi yr oedd y bai iddi fethu. Nid oedd gennyf, ysywaeth, ddigon o hyder i sefyll o flaen dosbarth fel rhai o'm cyfoedion. Cofiaf yn dda am ddau ohonynt, ac fe'u gwelaf yn awr. Arferai un sefyll yn hollol lonydd a'i gefn at y lle tân a'i lygaid wedi eu hoelio ar y mur o'i flaen fel pe bai'r geiriau a adroddai yn ysgrifenedig arno; a rhwng pob pennill codai ei olygon tua'r to fel pe bai'n disgwyl cymeradwyaeth oddi fry. Safai'r Hall â'i goesau ychydig ar led — yn debyg iawn i'r llythyren A — ei ddwylo y tu ôl i'w gefn a'i gorff yn symud o'r naill ochr i'r llall fel bys metronôm.

Yn yr ystafell honno y dysgais lafarganu y tablau; yno y dysgais lunio brawddegau a gwahaniaethu rhwng coma a ffwl-stop — er y tystiai Miss Isaac fod y naill yn debycach i benbwl a'r llall, o ran maint,yn debyg iawn i farblen. Yno hefyd y dysgais sgrifennu am y tro cyntaf a phin ac inc a dod i wybod fod y fath beth â nib yn bod — a hynny mewn modd nad anghofiaf byth. "Ewch at Mr. Hughes a gofyn iddo am ychydig o nibs", meddai Miss Isaac un bore, a gwthio pin sgrifennu i'm llaw — i wneud yn siwr fy mod i'n cael y math iawn, mae'n debyg. Nid oeddwn wedi clywed y gair o'r blaen,. ac fe swniai'n air od iawn i mi. Yn wir, erbyn cyrraedd ystafell y prifathro yr oeddwn yn dechrau amau a oeddwn wedi deall Miss Isaac yn iawn. Curo wrth y drws a cherdded i mewn i'r ystafell, a chael Mr. Hughes yn sefyll o flaen dosbarth o blant hynaf yr ysgol. "Wel? " gofynnodd. Edrychais arno yn swil. "Mae Miss Isaac yn gofyn am .... am. . . . " A fedrwn i fentro yngan y gair rhyfedd? "Gofyn am beth? " "Yn gofyn am un o'r pethe yma", atebais, gan bwyntio at flaen y pin sgrifennu yn fy llaw. Chwarddoddy dosbarth. "Nibs ydych chi'n feddwl? " gofynnodd y mistar. "Ia, syr". "Wel pam na ddywedwch chi hynny? 'Un o'r pethe yma' wir". A chwarddodd y dosbarth yn uwch. Fy unig gysur bellach wrth gofio'r achlysur hwnnw yw meddwl y gall fod yna blentyn, yn oes y beiro a'r pin belbwynt, mor anwybodus a mi, a heb glywed eto am y gair a achosodd gymaint o ddiflastod i mi a difyrrwch i eraill y dwthwn hwnnw.

Gan fy mod yn ystafell y prifathro, cystal imi sôn am y wers honno pan geisiais, er mawr ofid imi, ddangos tipyn o wreiddioldeb. Gwers arlunio ydoedd a Mr. Hughes wedi rhoi cerdyn hirsgwar i bob un ohonom. Ar y cerdyn yr oedd amlin ysgafn o flodeuyn, a'r dasg oedd mynd dros y llinellau â phin ac inc. Wedi gwlychu'r nib — yr oeddwn yn hen gynefin a'r gair hwn bellach —
Plant yr ysgol ym 1924
Plant yr ysgol ym 1924
The children of the school in 1924.
trois i siarad â'r sawl a eisteddai y tu ôl imi, ac wele ddeigryn o inc yn disgyn ar y cerdyn — blotyn du ar yr eira gwyn megis. Beth nesaf, tybed? Cerydd am fod mor esgeulus? Cosb am andwyo'r cerdyn? Ac nid oedd sylw un o wehelyth cysurwyr Job a eisteddai wrth fy mhenelin fawr o help imi. "Dyna ti wedi'i gwneud hi 'nawr", meddai. Ond fe gefais fflach o weledigaeth a ddaw weithiau i ddyn mewn argyfwng. Wedi incio'r llinellau, trois y blotyn du yn belen hirgron a'i chysylltu yn ddyheuig (yn fy nhyb i) with goes y blodeuyn. Daeth y prifathro heibio i'r ddesg. Disgynnodd ei lygaid ar y cerdyn, a disgynnodd y riwler yn ei law ar fy ysgwydd. "Clyfar iawn", meddai a chipiodd y cerdyn oddi ar y ddesg a'i rwygo'n ddarnau mân. Nid oddi ar ddrain y cesglir grawnwin, ac nid ar goes blodyn llygad llo mawr y tyf eirin duon bach.

Yn y dyddiau hynny yr oedd rhywbeth newydd i'w ddysgu bob dydd. A dysgais rai pethau y tu allan i furiau'r ysgol nad oedd ar lyfrau'r athrawon. Yr oedd hi'n arferiad gan y rhai hynny ohonom, na threuliai'r awr ginio yn cicio pêl, eistedd yn rhes â'n cefnau yn erbyn wal yr ysgol yn naddu cerrig. Un prynhawn, a chriw bach ohonom with y gorchwyl hwnnw, penderfynodd un o'r bechgyn ei bod yn hen bryd imi ddysgu rhegi. Ac wedi gwneud yn siŵr fy mod wedi meistroli un gair arbennig, fe'm hanogwyd i gyfarch un o'r bechgyn hŷn, a ddigwyddai fynd heibio inni, a'r gair hwnnw. Edrychodd hwnnw yn sarrug arnaf, ac ni fu fawr o Gymraeg, gweddus nac anweddus, rhyngom am rai misoedd wedi hynny.

Ffordd arall gennym o dreulio amser chwarae neu'r awr ginio oedd sefyll â'n pwys yn erbyn reilin yr ysgol yn gwylio'r ychydig gerbydau a âi heibio. A thipyn o arwr oedd hwnnw yn ein plith a fedrai adnabod pob car with ei enw. Dyna pryd y gwelais hers fodur am y tro cyntaf, neu "moto coffin" fel y galwodd un o'r cwmni hi. A dwg hyn ar gof imi y tro hwnnw y bu bron i mi gael taith annhymig yn un o'r cerbydau hynny. Ni wn hyd heddiw paham y gwneuthum beth morberyglus o ffôl, ond with ruthro allan o iard yr ysgol un prynhawn, rhedais ar draws y ffordd yn union o flaen bws yn teithio i gyfeiriad Machynlleth. Ni wn pwy ohonom a gafodd fwyaf o fraw — myfi neu fy nghyfeillion neu'r gyrrwr. Clywaf yn awr eiriau fy nain pan glywodd yr hanes — "Beth pe bai'r bachgen wedi dod adre'n gorff! " Erbyn y bore yr oedd y stori wedi cyrraedd clustiau'r prifathro a chefais gerydd ganddo o flaen y dosbarth nad anghofiaf byth.

William Basil Jones, Gwynfryn, Esgob Tyddewi
W. Basil Jones, Gwynfryn, Esgob Tyddewi
W. Basil Jones, Gwynfryn, Bishop of St Davids.

Y mae clywed ambell bwt o gân neu weled ambell flodeuyn neu glywed aroglau clai neu ddillad gwlyb yn aml yn dadrowlio ffilm y blynyddoedd, a gwelaf eto'r ystafell lle byddem yn cael gwers mewn canu, y potiau jam ar silffiau'r ffenestri, a'r lobi yn llawn o gotiau a wlychwyd yn y glaw. Cofiaf yn dda am un bore pan lanwyd yr ystafell a rhyw berarogl hyfryd, hyfrytach na dim a ddeuai o gyfeiriad y potiau blodau. Daeth y prifathro i mewn i'r ystafell a'i riwlar yn ei law. Safodd am ennyd o flaen y dosbarth, yna dechrau holi'r merched bob yn un a gofyn iddynt a fuont yn ymhel â photeli scent eu mamau, a phob un ohonynt yn ysgwyd ei phen. Yn sydyn trois ataf fi, a disgynnodd y riwlar — whap! — ar y ddesg o'm blaen. "Ydych chi wedi bod yn iwsio oel gwallt eich tad? " gofynnodd. Nid oeddwn wedi clywed am y fath beth erioed; yr oedd y gair mor ddieithr i mi â'r nib bondigrybwyll hwnnw beth amser ynghynt. A'r unig beth a welswn fy nhad yn rhoi ar y tipyn gwallt a oedd ganddo oedd diferyn o ddwr yn awr ac yn y man. Ni chofiaf a lwyddwyd i ddatrys dirgelwch y perarogl ai peidio, ond fe ddaw'r diwmod hwnnw yn fyw i'm cof bob tro y clywaf adrodd y geiriau hynny — "Iraist fy mhen ag olew".

Ymhen tair blynedd ar ôl cychwyn yn yr ysgol, daeth yn adeg inni symud unwaith eto). Ond nid oedd Machynlleth mor bell â hynny o Dre'r-ddôl a medrais gadw mewn cyswllt â'm hen athrawon a'm cyd-ddisgyblion. A hyd yn oed ar ôl mudo i Sir Fôn, cawn gip ar yr ysgol wrth deithio yn awr ac yn y man tua'r deau, a sylwi fod yr hen ysgol yn dal yr un fath — yn allanol, o leiaf.

Cor Plant yr ysgol yn cychwyn i Eisteddfod Tywyn ym 1910.
Cor Plant yr ysgol yn cychwyn i Eisteddfod Tywyn ym 1910
The children's choir departing for Tywyn Eisteddfod, 1910

Rai blynyddoedd yn ôl, pan oedd fy mhlant yn mynychu'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth, deuthum i adnabod y diweddar gyfaill hoff Mr. Huw J. Evans a fuasai am gyfnod yn brifathro yn fy hen ysgol. Treuliais lawer orig ddifyr yn ei gwmni, a chad ei fod ef wedi bod yn dysgu plant y rhai a oedd gyda mi yn yr ysgol yn y dauddegau. A thrwyddo ef, teimlwn fy mod unwaith eto mewn cyswllt ag ysgol Llangynfelyn.

Ysgol Llangynfelyn, fy ysgol gyntaf, ac yng ngeiriau'r bardd a ganodd am ei ysgol yntau,

        "Hoff rodfa fy mabolaeth
        Chwaraele bore 'myd".
[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]