Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education


Google


[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 4 - Rhai o enwau lleoedd Gogledd Ceredigion,

gan Y Diweddar R.J.Thomas, o "Lloffion Llangynfelyn"

Ni soniaf ddim am Gors Fochno lwyd ei gwedd mwy na dweud ei bod yn enwog mewn llên gwerin am ei llyffant hen, un o greaduriaid hirhoedlog y ddaear, a hefyd am yr Hen Wrach a flinai drigolion yr ardal hon am oesau lawer. Y mae'r hen farddoniaeth Gymraeg yn frith o gyfeiriadau at frwydrau Cors Fochno. Pa sawl rhyfelwr gwaedlyd a suddodd o'r golwg i grombil y figyn dan bwysau ei arfogaeth, nid oes neb a ŵyr. Y Gors, a hi yn unig, biau'r gyfrinach.

Enw cymharol newydd yw'r enw Taliesin neu Dref Taliesin, — nid yw'n fwy na rhyw gant a deugain oed. Comins-y-Dafarn-fach oedd enw'r lle cyn hynny pan brynodd yr yswain Davies, Ffosrhydgaled y comins ac adeiladu tai arnynt. Ni charai capelwyr selog Taliesin yr enw Comins-y-Dafarn-fach o gwbl, a hwythau ynghanol y Diwygiad Dirwestol. Felly, gan fod Bedd Taliesin ar ben bryn cyfagos, fe benderfynwyd y dylai'r pentref gael ei fedyddio o'r newydd ag enw mwy urddasol a pharchus. O hynny allan dechreuwyd galw'r pentref yn Dref Taliesin.

Ar y llaw arall y mae Tre'rddôl yn hen le ac yn hen enw — Tre Dôl Cletwr ydoedd yr enw'n llawn gynt. Y mae i'r pentref hwn (neu o leiaf yr oedd iddo hyd yn gymharol ddiweddar) holl hanfodion pentref — melin a phont a gefail y gof a phitffald a dwy dafarn (dim ond un erbyn hyn) a hen gwrt yn y dyddiau a fu; ac yn ben ar y cwbl afon fechan frochus yn ei rannu yn ei ganol. Yn unol â'i henw, y mae afon Cletwr yn "galed ddŵr" mewn gwirionedd. Pan gyfyd ei thymer y mae'n ysgubo popeth o'i blaen. Bu sôn rai blynyddoedd yn ôl am ffrwyno Cletwr a'i hystwytho i gynhyrchu trydan dan gynllun dŵrdrydan Rheidol, ond er gwell neu er gwaeth ni ddaeth dim o'r bwriad hwnnw.

Nepell o bentref Tre'rddôl y mae darn o dir gwlyb a elwir Waun-to. Ceir amryw leoedd ledled Cymru o'r enw Waun-to, Wern-to, Rhos-to ac yn y blaen. Ystyr y cyfryw enwau yw fod digonedd o ddefnyddiau priodol at wneud to gwellt neu do cawn, sef brwyn a chawn, yn tyfu wrth law yn y mannau hynny. Yn rhyfedd iawn ceir cadarnhâd o hyn yn yr hen linell honno ym Marddoniaeth y Llyfr Coch sy'n darllen fel hyn: "gnawt cael to yg gweunyd" (RP 1031.13), hynny yw yn iaith heddiw, "peth arferol yw cael defnyddiau at wneud to mewn gweunydd".

Taliesin yn 1924
Taliesin yn 1924

Ni fynnaf ymdroi mwy yng nghwmpas-oedd Tre'rddôl gyda hen dŷ Bodfagedd, hen adfeilion Ergyd-y-bwa, a phlasty anghyfannedd Lodge Park. Bu Syr Huw Midleton yn byw yno, y gŵr da anturus hwnnw a ddaeth â chyflenwad dŵr y New River i ddisychedu dinas Llundain, Ond er bod i'r fro hon lawer o ramant a hen hen hanes, rhaid prysuro at y Ffwrnes, enw sy'n dwyn i gof un o hen ddiwydiannau coll yr ardal; yn ei ymyl y mae'r afon Einon yn disgyn yn rhaeadr disgleirwyn. O'r tu ôl inni y mae'r Foel Fawr yn ymddyrchafu'n glogwyn ysgythrog, a dyna olygfa ysblenhydd a geir oddi ar ei chopa! Mae holl ynysoedd gwyrddlas coediog y gwastatir yn pefrio oddi tanom, — Ynys-hir, Ynys Eidol, Ynys Edwin, Ynys-greigiog, Ynys Cynfelyn a'r Ynys-Las yn y pellter draw, a dwndwr dí-baid y môr ar y bar yn Aberdyfi yn cyd-gordio ag organau'r gwynt. Tu yma i'r Ynys-las (ym mhlwyf Llangynfelyn) gor-wedd Traeth Maelgwn yn union gyferbyn ag Aberdyfi. A dyna ddiddorol yw'r stori sut y cafodd Traeth Maelgwn ei enw. Tywysog ar Ynys Môn oedd Maelgwn Hir, ond fe ddaeth yn Faelgwn Gwynedd drwy iddo, yn ôl yr hanes a adroddir yn yr Hen Gyfreithiau, gael y llaw drechaf ar fân dywysogion eraill Cymru. Nid eu gorchfygu mewn brwydrau a wnaeth, ond eu trechu mewn cystadleuaeth, a hynny trwy gast ystrywgar. Cynhaliwyd yr ornest rhwng y tywysogion hyn ar y traeth ger aber afon Dyfi. A dyma'r gamp a drefnwyd — fod y tywysogion oll i eistedd mewn cadeiriau ar y traeth a bod y sawl ohonynt a allai ddal i eistedd yn ei gadair yn wyneb grym y llanw i'w gydnabod yn ben arnynt oll. Y ddichell a ddyfeisiodd y tywysog Maelgwn oedd cael llunio cadair ar ei gyfer ei hun ag adenydd dani wedi eu hiro â chwyr; rhyw fath o floating chair megis fel y gallai ef ddal i eistedd yn ei gadair, a honno'n nofio ar wyneb y tonnau. Drwy'r cynllwyn yma fel yr eiddo'r brenin Canute yn Lloegr, fe Iwy-ddodd Maelgwn i ennill y gamp a chael ei goroni'n frenin ar yr holl dywysogion. A dyna sut, yn ôl y chwedl, y cafodd Traeth Maelgwn ei enw. (gw. Ancient Laws of Wales ii. 48-50).

Y mae llawer o enwau wedi eu cofnodi mewn gweithredoedd ar diroedd ac mewn mapiau ystadau o bob math, a cheir llawer o'r gweithredoedd a'r mapiau hyn yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Dyma restr fras o enwau tyddynnod a chaeau a ddigwydd mewn gweithredoedd a mapiau sy'n ymwneud â thiroedd ym mhlwyf Llangynfelyn. Nid yw amryw o'r enwau lleoedd a nodaf yn wybyddus heddiw — cofier eu bod yn perthyn i gyfnod go bell yn ôl, i'r unfed ganrif ar bymtheg hyd at y ddeunawfed ganrif. Dyma ddetholiad o'r enwau lleoedd — dim ond degwm neu gyfran lai megys o holl enwau lleoedd y plwyf. Tyddyn Mochno, Tyddyn Llwyn (erbyn hyn fe'i talfyrrwyd yn Tyn-llwyn), Tyddyn-y-fron-goch, Tyddyn cerrig-yr-afon, Ynys Fochno, Gweddynys, Cefen Golau, Cefen-y-dre, Gwastatgoed, Pont-y-gwartheg, y Llannerch-goch, Llety Lwydyn, Tyddyn Llidiart, Rhos ar gefen eurglawdd, Tyddyn-y-Trawsgoed, Llechwedd-y-coed mawr, Blaen Cletwr a Lluest Ysgyr Feyddyn (yr olaf yma tua Chae'r Arglwyddes a Moel-y-llyn). Mewn hen fap yn perthyn i ystad Gogerddan dangosir darn o dir o'r enw Morfa Cyd ger yr Hen-hafod, a chae arall yn dwyn yr enw hynod Gwaith Chwegwr hallt ar yr un fferm. Ni all Gwaith Chwegwr hallt olygu dim amgen na bod y cae hwn a orlifid ar adegau gan ddŵr hallt y môr yn waith a gymerai chwe dyn i'w bladurio. Yn yr un llyfr mapiau digwydd enw bach rhyfedd yng nghyffiniau'r Wenffrwd — Cwmtindro yw'r enw. Ai tybed am fod y cwm bychan hwn yn rhyw droi a throsi'n ôl a blaen y cafodd y fath enw? Ar dir Neuadd-yr-ynys, ar yr un mapiau, dangosir caeau'n dwyn yr enwau Cae mwynglawdd, Rhyd fudr a Phlas bedw. Ar dir Cefn Gwirion nodir cae o'r enw Llain-y-wiber, ac yn ymyl Cae'r Arglwyddes mae tir corsiog o'r enw Rhabon brwyn.

Gallwn fynd ymlaen i sôn am lawer o enwau presennol y plwyf, am Tŷ-mawr-llan, er enghraifft. Tafarn oedd yno, mae bron yn sicr gennyf, yn yr hen amser pan oedd bri ar angladdau a phriodasau a gwyl-mabsantau. A gerllaw i'r eglwys saif bwthyn bach y Gwindy — nid "tŷ gwyn" ond "tŷ gwin" neu "wine-house", chwedl y Saeson, lle'r oedd gwin ar werth i'r sawl a'i mynnai. Am blas y Gwynfryn, fe haeddai hwnnw bennod gyfan iddo'i hunan.

Cyn terfynu, fe garwn wneud rhyw sylw cyffredinol neu ddau ynghylch yr enwau lleoedd hyn. Yn gyntaf oll, parchwn hwy, pe na bai ond am eu henaint yn unig. Na fyddwn ddibris o'n treftadaeth Cymreig. Nid oes dim sy'n hyllach i'r glust na chlywed Cymry o bawb yn dynwared Saeson uniaith ac yn camdrin enwau persain eu gwlad. Bydd rhai'n sôn am fynd i "Aber" a "Mach" a "Both" a "Tredol" ac yn y blaen hyd at syrffed. Gofalwn na fyddwn ni'n euog o'r fath anfadrwydd.

Margaret Morris yn 105 oed
Margaret Morris yn 105 oed (gweler detholiad o'r "Log Books")
Margaret Morris in her 105th year (see extracts from the "Log Books")

Hefyd, yn ail, ceisiwn drysori'r enwau lleoedd hyn ar ein cof a deall eu hystyr. Fe rydd hyn fwy o fin ar ein meddwl a mwy o ddiddordeb yn ein hamgylchfyd. Mae digon o le yn ein mysg i loywi tipyn nid yn unig ar yr iaith ond hefyd ar ein gwybodaeth am hanes Cymru drwy ddechrau dod i wybod mwy am ein cynefin ni ein hunain. Yng nghanolbarth Cymru yma y mae arnom ni fwy o gyfrifoldeb nag odid neb arall yng Nghymru. Mae Cymru Gymreig yma yn fain yn ei chanol fel petai ac yn denau ei phoblogaeth. Ein braint a'n dyletswydd ni yma felly yw gofalu a sicrhau na thorrir y cyswllt hanfodol, y llinyn bywyd, neu'r life-line os mynnwch, sy'n cydio Gogledd a Deau yn ei gilydd ac yn cadw Cymru Gymreig yn fyw ac yn un.


[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]