Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education


Google


[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 10 - Ysgol Taliesin

(allan o 'Atgofion Cardi' Dr. Thomas Richards)

James Jones oedd yr ysgolfeistr ym 1893, mab coachbuilder o Aberystwyth, hen fyfyriwr o'r Coleg Normal ym Mangor, a newydd fod yn cadw ysgol ar ororau Sir Henffordd, yng nghyrion pella'r Dyffryn Olchon hwnnw y mae haneswyr y Bedyddwyr mor hoff o sôn amdano. Gŵr eiddil, llwyd ydoedd, gwydn er hynny; nid oedd iddo allu cynhenid Prosser nac athrylith Rhydderch; ac er swnio braidd yn
Y plant/The children 1975
Plant yr ysgol ym 1975
The school pupils in 1975
anghyson fy marn i yw mai ef oedd y mwynaf o'r tri. Yr oedd yn unplyg gydwybodol, ar flaenau ei draed o wasanaeth i'r plant a'r athrawon (dosbarthiadau i'r athrawon o wyth i naw'r bore yn yr haf, o bump i chwech gyda'r nos yn y gaeaf). Yn sicr nid oedd iddo bersonoliaeth bwerus, a dioddefai disgyblaeth yr ysgol o'r herwydd; yr oedd yno ddigon o waith yn mynd ymlaen, ond gormod o sŵn wrth ei wneud, a gormod gweiddi gorchmynion (cofier, er hynny, nad oedd onid dwy ystafell i chwe ugain o blant, un i'r Infants, ac un i bawb o'r lleill). Rhwng gofalon teulu go fawr, ymbleidio'r Bwrdd Ysgol, a hunlle'r annual examination, nid nad allai fod yn biwus weithiau, a minnau'n dod o deulu yn tanio fel matsen. Profedigaeth go fawr oedd y gloch. Trigai hon yn y nenfwd uwchben, weithiau rhydai'r taclau, ac nid oedd fodd mynd ati ond trwy trap-door cul gyda chymorth ysgol hir a thrwm. Hawdd oedd ymglymu'n sownd ddiddatrys yn hafflau'r drws cul, a haws, ar ôl cyrraedd, oedd camu drwy'r plastar brau rhwng y planciau a ar-weiniau at apparatus y gloch. I mi y syrthiai'r poendod o'i thrwsio, a'r un brawd a dynnai'r rhaff. Waeth am dymheredd y tanio matsus na rheg-fendithio'r gloch, y mae gennyf y parch puraf i goffadwriaeth James Jones, yr hen ysgolfeistr.

Nid oedd fawr amrywiaeth na gwreiddioldeb yn bosibl yn yr addysg a gyfrennid. Yr oedd y cwbl o dan gaead haearn yr Education Code a ddeuai o Whitehall (cyfrol fawr, cas llwyd, y byddai'n dda ei gwybod ar dafodleferydd). Y sums arferol, yn cyrraedd eu man eithaf yn y stocks and shares; disgwylid meistroli tri llyfr darllen yn ystod y flwyddyn, a dewisid paragraff o un o'r rheini ar gyfer dictation; sychter pen Gilboa oedd yr analysis a'r parsing, pwysig aruthr i ddeall adeilad brawddeg a swydd pob gair ynddi, ond yn gofyn am athrylith

o athro i roddi bywyd yn yr esgyrn sychion. Llawer o hwyl a gafwyd erioed ar ben cofio penrhynoedd ac afonydd a gorynysoedd y byd, ond dyna'n union oedd ein gwaith ni yn y geography bondigrybwyll. Nid oes berygl i mi fyth anghofio rhestr y pum pottery towns. Onid Stoke, Burslem, Hanley, Longton, Erturia? Onid haws i Arnold Bennet ysgrifennu amdanynt nag i ni, blant unieithog Taliesin, eu cofio? Un peth a wnaeth yr hen drefn oedd dysgu sbelio, nid oes ddadl am hynny. Peiriannol mae'n wir, yn enwedig y rhestri hir o eiriau tebyg eu sŵn ond annhebyg eu sillafu. Y cwbl yn Saesneg. Dim gair byth am hanes Cymru, hyd yn oed enwau ei thywysogion; dim gair am gysylltiadau lleol fel Ogof Morus, Bedd Taliesin, Traeth Maelgwn, nac am olion traed rhyw begoriaid cyn-hanesyddol ar garreg galed ger Cefn Erglodd. Dim affliw o ddim. Mewn gair, o bob cyfnod dilewych ar addysg Cymru, o safbwynt Cymru, y mwyaf dilewych oedd yr ugain mlynedd cyn pasio Deddf 1902.

Y mae'n wir i Arthur Acland, Tom Ellis, a gwlatgarwyr eraill yn y Senedd lwyddo i gael tipyn o Gymraeg i mewn i'r Code yn yr wyth-degau (1889 i fod yn gywir), ond newydd beth annealladwy oedd hyn i'r hen do o ysgolfeistri, prennaidd oedd eu hymateb iddo, a phrennaidd ddifrifol oedd y gwerslyfrau Cymraeg a ddarperid ar gyfer y plant yn sgil y cyfnewidiad. Y Cymru Coch a Chymru'r Plant a Syr Owen Edwards a achubodd syniadau Acland ac Ellis rhag penyd oerfelgarwch a difancoll.

Pasiant y canmlwyddiant/Centenary Pageant
Pasiant i ddathlu canmlwyddiant yr ysgol
The pageant held to celebrate the School's centenary
[Cyflwyniad/Introduction]
[ << Pennod gynt / Previous chapter <<]
Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]