Hafan
Home
 | 
 | 
Chwilio
Search
 | 
 | 
Hanes a dogfennau
History & records
 | 
 | 
Addysg
Education


Google


[Cyflwyniad/Introduction]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]

Ysgol Llangynfelyn 1876-1976

Pennod 1 - Y Cefndir, gan J.R.Jones

Ymestyn Plwyf Llangynfelyn o Gaerglwyddes i'r Ynys-las, ac o'r Hen-hafod i Nant-llain, plwy cymharol fychan, yn bum milltir o hyd a thair milltir o led. Tebyg i'r plwy gael ei enw oddi wrth Cynfelyn un o seintiau'r chweched ganrif, a oedd o dras brenhinol ac yn un o ddisgynyddion Ceredig a Chunedda Wledig.

Tyfu'n gyson a wnaeth rhif y boblogaeth yn ystod y ganrif ddiwethaf nes cyrraedd 1051 erbyn 1871, ond buan y disgynnodd pan ddechreuwyd cau y gweithfeydd mwyn, ac erbyn y Rhyfel Byd cyntaf 'roedd nifer y trigolion bron wedi haneru, a gwelwyd ymfudo cyson i Dde Cymru a Lloegr, ac yn wir i lawer rhan o'r byd.

Ar wahn i'r gweithfeydd mwyn ac amaethu, 'roedd yma nifer o fn ddiwydiannau blodeuog, yn arbennig yn Nhre'r-ddol. Arferid y grefft o wneud clocsiau; 'roedd yno felin brysur, a nifer o'r trigolion yn ennill eu bywoliaeth yn gwneud hetiau. Gwneid pob math o hetiau at wahanol achlysuron, gyda galw cyson am rai i'r mwynwyr; byddai rheiny'n gryfach gyda lle i roi'r gannwyll wr ynddynt. Byddai'r gwragedd yn cludo'u cynnyrch ar asynnod, teflid cengl yn groes i gefn pob anifail, gyda bocs bob ochr yn llawn o'r hetiau, ac eid a nhw i'w gwerthu cyn belled a Chaernarfon a Sir Fon; byddai'n rhaid i'r gwragedd gerdded, ac nid oedd pob siwrnai yn ddiogel, yn arbennig with ddychwelyd.

Diddorol yw sylwi yn hen lyfrau'r ysgol ar y nifer amrywiol o grefftwyr a oedd yma yn niwedd yr wythdegau; seiri (yn cynnwys seiri llongau), mwynwyr, gofaint, cryddion, melinwyr, amaethwyr, stiwardiaid tir, gyrwyr coets, peintwyr, torwyr coed, seiri maen, cyfrwywyr a phlismon.

Er bod cryn ddadlau ai Llangynfelyn ynteu Llanfihangel-y-Creuddyn biau'r hawl ar Deio ap leuan Du, bardd o'r bymthegfed ganrif, deil traddodiad mai yma yn y Goetre y magwyd ef. Canodd nifer o awdlau a chywyddau yn cynnwys Awdl y Caws, ar l y derbyniad anffafriol a gafodd gan Abad Mynachlog Enlli pan ymwelodd 'r ynys. Ond cofir amdano heddiw yn fwyaf arbennig fel awdur y llinell 'Y Ddraig Goch ddyry cychwyn'.

Sut bynnag, nid oes amheuaeth nad yng Ngwarcwm-bach y magwyd Humphrey Jones y Diwygiwr; er i'w deulu ymfudo i'r America ac iddo yntau eu dilyn ymhen blynyddoedd, dychwelodd yma i gynnau Diwygiad '59.

Cysylltir y Gwynfryn W. Basil Jones, gŵr dysgedig a ysgrifennodd nifer o erthyglau pwysig, yn cynnwys "An Inquiry into the History of Certain Terms in Celtic Ethnology"; ef yw cyd-awdur y gyfrol "The History and Antiquities of St. David's", a bu yn Esgob Tyddewi o 1874-97, ac mae'i fedd yn Eglwys Llangynfelyn.

Brodor o Daliesin oedd Evan Isaac, fun weinidog gyda'r Wesleaid, ac awdur nifer o gyfrolau 'Yr Hen Gyrnol', 'Coelion Cymru', 'Emynwyr Cymru' ac eraill.

Dr. Thomas Richards
Dr. Thomas Richards

Yn Ynystudur y magwyd y Dr. Thomas Richards, llenor ac ysgolhaig a fu'n Lyfrgellydd Coleg y Brifysgol ym Mangor, gŵr difyr a ymfalchiai yn ei fro enedigol.

Ym myd chwaraeon yr amlygodd John Griffiths Stephens ei hun. Daeth i Erglodd yn blentyn ifanc cyn i'r teulu symud i Danllan. Pan oedd yn giwrad yn Llanelli, chwaraeai rygbi i'r dre honno, a bu'n chwarae droeon dros Gymru gan gynnwys y flwyddyn 1922 pan gipiwyd y Goron Driphlyg. Cymaint oedd ei fedr fel y gallai chwarae mewn unrhyw safle. Fe'i claddwyd ym 1956 ym mynwent Eglwys y Plwyf Bossall lle roedd yn Rheithor.

Er ein bod mewn cyfnod dipyn diweddarach, teg cofnodi mai yma y treuliodd y Prifardd Dic Jones ei flynyddoedd cynnar.

Cyn i grefydd ac addysg gael eu derbyn yma, 'roedd bri mawr ar bob math o gampau gwyllt, yn cynnwys yr Ŵyl Fabsant ac ymladd ceiliogod. Er nad oedd prinder gwaith, 'roedd yma lawer o dlodi a medd-dod. Cafodd Daniel Rowlands ei ymlid cherrig o Dal-y-bont, ond trwy dric cyfrwys y dihangodd o'r plwy yma heb obaith iddo gael cyfle i bregethu'r Efengyl, gan mor amharod oedd y trigolion i dderbyn dim a fyddai o bosib yn newid patrwm bywyd y lle.

Sefydlwyd ysgol yn y Llan-fach flynyddoedd cyn codi'r ysgol bresennol, yn wir mor gynnar ag Awst 1856 ceir "Indenture for a school at Llan-fach, for the education of children and adults of the labouring and manufacturing, and the poor classes in the 'Parish of Llangynfelyn."

Tebyg mai Ysgol Eglwys oedd hon a chawn hanes am ysgol yn yr Hen Gapel yn Nhre'r-ddl ym 1845.

Pan basiwyd Deddf Addysg Forster ym 1870, gyda'r Bwrdd Ysgol i ofalu am y trefniadau lleol, daeth addysg o fewn cyrraedd pob plentyn o 5-13 oed. Ymhlith aelodau cyntafy Bwrdd 'roedd H.C.Fryer, Lodge Park (Cadeirydd) ef oedd stiward stad Gogerddan; David Young, Gweinidog Wesleaidd; Wyn Thomas, Ficer y Plwy, M. Thomas, Neuadd yr Ynys, a Thomas Jones, Postfeistr.

Y Gwynfryn
Y Gwynfryn

Yn Awst 1871 aed ati i hysbysebu am brifathro yn y Caernarvon Herald, Y Faner a'r Western Mail, ac ymhen deufis mewn cyfarfod pellach o'r Bwrdd pasiwyd i wahodd Richard Morris o Adwy'r Clawdd, Coedpoeth, i fod y cyntaf o brifathrawon o dan y Bwrdd Ysgol, am gyflog o 90 y flwyddyn. Cafodd ei wraig ei dewis yn athrawes wnio gan roi'i gwasanaeth am dri phrynhawn o bob wythnos am 10 y flwyddyn. Yn ddisgybl-athrawon gwahoddwyd William Evan Jones, Tŷ-mawr Mochno, a Thomas Jones, Goetre, y naill am 10 a'r llall am 8 y flwyddyn. Prif bynciau'r ysgol? Gwnaed hynny'n glir ar y dechrau! - "First class subjects English and Geography" er bod y prifathro yn cwyno bod y plant yn Gymry uniaith. 'Roedd cyfanswm y rhai a fynychai'r ysgol yn 140, a llawer ohonynt yn dechrau'n ddeg oed. Cedwid llawer ohonynt gartre'n fynych i helpu gyda'r mn orchwylion, yn wir adeg y cynhaeaf mawn a'r ffeiriau, byddai cymaint hanner y plant yn absennol.

O gofio maint y Llan-fach nid rhyfedd bod adroddiad yr arolygwr mor anfoddhaol:

"This school has not made satisfactory progress during the past year, and has passed a very unsatisfactory examination. The discipline and instruction require improvement. The teacher ought to be more careful in keeping the room ventilated".

Penderfynodd y Bwrdd fod yn rhaid cael adeilad ehangach, ac etholwyd rhagor o'r trethdalwyr a chynrychiolwyr o'r ddau gapel ar y pwyllgor. Bu rhai yn awyddus i addasu yr Hen Gapel yn ysgoldy, ond yn Ebrill 1873 rhoddwyd terfyn ar y syniad hwnnw.

"A letter was read objecting to the conversion of the Wesleyan Chapel into Schoolroom".

Ym Mawrth 1875 cytunwyd ar y tir lle saif yr ysgol bresennol fel safle addas. Bu gohebu W. Basil Jones, gan fod y tir yn perthyn i Ddolcletwr ar Stad y Gwynfryn, ac wedi cytundeb, hysbysebwyd am adeiladwyr i gyflwyno eu prisiau am godi ysgol a thy i'r prifathro. Mewn pwyllgor yn ddiweddarach ymddiriedwyd y gwaith i Edward Felix am y swm o 725.00

Ymddiswyddodd Richard Morris cyn agor yr ysgol newydd oherwydd rhyw ffrwgwd rhyngddo ef ac aelodau'r Bwrdd. Aeth i bregethu, gan ddod yn boblogaidd iawn, ond yn ddiweddarach, oherwydd ei ddaliadau chwyldroadol, fe'i diswyddwyd gan y Cwrdd Misol a'r Henaduriaeth, a symudodd i Forgannwg. 'Roedd yn ŵr arbennig ar lawer ystyr; dywedir iddo gynllunio cam-las o Daliesin i'r Borth er hwyluso trafnidiaeth, ond ni ddaeth dim o'i gynllun. Ei olynydd fel prifathro oedd Samuel Prosser a ddaeth yma o Langeitho yn nechrau 1876.

Agorwyd yr ysgol yn swyddogol ar Hydref 24ain 1876. Cafodd y plant wledd a chwaraeon, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr. Cadwyd y Llan-fach i addysgu nifer o'r plant lleiaf hyd 1886 pan ddechreuodd y boblogaeth leihau.

Dyma restr o'r prifathrawon a fu yma yn ystod y can mlynedd diwethaf.

Richard MorrisRhagfyr 1871Mawrth 1876
Samuel ProsserEbrill 1876Medi 1889
Richard RhydderchMedi 1889Hydref 1891
James JonesHydref 1891Chwefror 1922
Evan Melanthon JonesChwefror 1922Tachwedd 1923
* Robert William JonesRhagfyr laf 1923Rhagfyr 24 1923
* Rosamund HughesIonawr 1924Chwefror 1924
Dennis HughesChwefror 1924Tachwedd 1941
* Anne Richardslonawr 1941Rhagfyr 1943
* W.J. Griffithslonawr 1944Ebrill 1944
* G. L. GriffithsEbrill 1944lonawr 1946
H.J. Evanslonawr 1946Mai 1959
A. Manzel JamesMai 1959---
*Dilwyn JonesMedi 1965Gorffennaf 1968
* y rhai a fu dros dro yn unig  

Er mai ar gyrion Taliesin y saif yr ysgol, fe'i galwyd o'r dechrau hyd heddiw yn Ysgol Llangynfelyn, gan lynu with enw'r plwy. Comins-y-Dafarn-Fach oedd enw gwreiddiol y pentref, ac mae'n debyg mai hir-ymarhous fu'r pentrefwyr i dderbyn yr enw Taliesin.

R.J.Thomas o flaen yr Amgueddfa yn Nhre'rddôl gydag ymwelwyr o Awstralia
R.J.Thomas o flaen yr Amgueddfa yn Nhre'rddôl gydag ymwelwyr o Awstralia
R.J.Thomas by the Museum, Tre'rddôl with visitors from Australia.

Faint bynnag a fu diffygion yr ysgol,pe bai ond yn unig yn peidio ag addysgu'r plant drwy gyfrwng eu hiaith gynhenid, fe roes wasanaeth gwerthfawr; a chofiwn heddiw, wrth ddathlu ei chanfed penblwyd, nid yn unig am y rhai a ddringodd i amlygrwydd, ond am y cenedlaethau o wŷr gwragedd di-sn-amdanynt, a fu yma yn dilyn eu gorchwylion bob-dydd, ac a fu'n bileri i'r achosion crefyddol a diwylliannol.

Bellach y mae pennod y ganrif gyntaf wedi'i chwblhau. Pa newid bynnag a ddigwydd o fewn ir Gyfundrefn Addysg yn ystod y bennod nesaf, boed iddi fod yr un mor gyfoethog ei chyfraniad, a chodi eto genedlaethau o ddisgyblion drwy gyfrwng yr addysg orau syn bosib. Wrth barchur gorffennol, gofaler na ddibrisir ein hiaith na'r diwylliant a berthyn i'n cenedl.

Heb y rhain bydd y cyfan yn ofer. Yng ngeiriau Waldo

"Cadwn y mur rhag y bwystfil
Cadwn y ffynnon rhag y baw"

[Cyflwyniad/Introduction]
[ >> Pennod nesaf / Next chapter >>]
Google

[Brig y dudalen/Top of page][Hawlfraint/Copyright]